Newyddion
Canfuwyd 198 eitem, yn dangos tudalen 14 o 17
Clwstwr Ynni ar y Môr am wireddu potensial Gogledd Cymru i gynhyrchu ynni carbon isel
Mae M-SParc wedi cael ei ddewis i fod yn gorff atebol ar gyfer y Gynghrair Ynni ar y Môr – clwstwr cadwyn gyflenwi a sefydlwyd er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan ynni ar y môr yng Ngogledd Cymru.
Cyfle byd-eang i bobl fwynhau bwyd môr Cymru
Bydd bwyd môr Cymru yn cael ei arddangos yn Sbaen yn ddiweddarach y mis hwn yn nigwyddiad masnach mwyaf y byd ar gyfer y sector – Seafood Expo Global 2022.
Ffermydd y Gogledd-ddwyrain yn enghreifftiau gwych o’r hyn y gellir ei gyflawni
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi ymweld â dwy fferm yn y gogledd-ddwyrain i weld sut y maent yn elwa ar gymorth Cyswllt Ffermio, sy’n cynnwys cefnogaeth i greu busnes i gyflwyno ffermio i blant ysgol.
Busnesau Twristiaeth Gogledd Cymru yn barod ar gyfer y Pasg
Wrth i fusnesau twristiaeth ar draws Gogledd Cymru baratoi ar gyfer gwyliau'r Pasg, aeth Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, ar ymweliad ag Adventure Parc Snowdonia i glywed am eu paratoadau.
£227 miliwn i helpu economi wledig Cymru greu dyfodol mwy gwyrdd a chynaliadwy
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu i sicrhau bod economi wledig Cymru a'n hamgylchedd naturiol yn parhau’n gryf ac yn gydnerth.
Atgoffa perchnogion i gadw eu cŵn dan reolaeth
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y tymor wyna, gydag ŵyn ifanc allan yn y caeau, mae perchnogion cŵn yn cael eu hatgoffa i gadw eu hanifeiliaid dan reolaeth o amgylch defaid a da byw eraill.
Cyfle i roi cynnig ar fwyd a diod o Gymru cyn y rygbi yn Llundain
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn Llundain heddiw i demtio'r cyhoedd i roi cynnig ar eu cynnyrch cyn i Gymru chwarae Lloegr yn Twickenham ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chyn Dydd Gŵyl Dewi
Achosion o ffliw adar ym Mhowys
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop, wedi cadarnhau presenoldeb haint Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 ar ddau safle masnachol gwahanol ym Mhowys - un ger y Drenewydd ac un ger y Trallwng.
Ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd i agor
Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yr A487 wedi'i chwblhau cyn pryd a bydd nawr yn agored i draffig ddydd Sadwrn 19 Chwefror yn hytrach na dydd Gwener 18 Chwefror er mwyn peidio ag annog unrhyw deithio diangen yn ystod Storm Eunice.
Cymru yw’r wlad gynta yn y DU i fynnu dyfais fonitro ar bob cwch pysgota masnachol
Cymru heddiw yw’r wlad gyntaf yn y DU i fynnu bod System Monitro Cychod (VMS) yn cael ei gosod ar ei holl gychod pysgota masnachol trwyddedig.
Prentisiaid yn chwarae rhan bwysig mewn bragdy
Mae prentisiaid Budweiser wedi cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a thrafod manteision mynd yn brentis gyda’r cwmni.
Mwy o daliadau Glastir yn cael eu talu ym mis Ionawr
Mae mwy o daliadau Glastir wedi’u talu’n gynnar yn y cyfnod talu i fusnesau ffermio yng Nghymru, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.