Newyddion
Canfuwyd 188 eitem, yn dangos tudalen 11 o 16
Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle ar Ynys Môn
Mae Gavin Watkins, Prif Swyddog Milfeddygol Dros Dro Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 mewn dofednod ar safle ar Ynys Môn.
Y Gweinidog yn talu teyrnged i’r Prif Swyddog Milfeddygol
Ar ôl 17 mlynedd, mae Christianne Glossop yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru. Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi diolch iddi am ei chyfraniad anhygoel i iechyd a lles anifeiliaid
Miloedd o ffermydd yng Nghymru’n cael eu talu
Bydd rhagor na 15,600 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o fwy na £161m pan fydd rhagdaliadau Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) 2022 yn cael eu talu fory (Gwener 14 Hydref), meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.
Cig oen o Gymru ar ei ffordd i America
Caiff cig oen o Gymru ei allforio i’r Unol Daleithiau heddiw, am y tro cyntaf mewn dros 25 mlynedd. Mae'r llwyth wedi ei brosesu yn Dunbia, Sir Gaerfyrddin.
Bil hanesyddol cyntaf Amaethyddiaeth Cymru i gefnogi ffermwyr yn y dyfodol
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod Bil Amaethyddiaeth cyntaf Cymru erioed wedi cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r Bil yn paratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gefnogi ffermwyr, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a gwarchod a gwella cefn gwlad Cymru, y diwylliant a’r Gymraeg.
Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle yn Sir Benfro
Mae Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 mewn dofednod ar safle mawr yn Sir Benfro.
Ffliw Adar wedi'i ganfod ar safle yng Ngwynedd
Mae Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 ar safle ger Arthog yng Ngwynedd.
Gall cynlluniau ar gyfer safle Trawsfynydd roi hwb enfawr i ogledd Cymru
Mae gan Gwmni Egino rôl hanfodol i’w chwarae wrth wireddu potensial safle Trawsfynydd, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn dilyn ymweliad â’r ardal.
Gweinidog Gogledd Cymru yn gweld prosiectau Sir y Fflint yn gwneud gwahaniaeth
Mae Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, wedi gweld rhai o'r cynlluniau yn Sir y Fflint sydd o fudd i'r ardal a'i phobl.
Gyrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiant lletygarwch
Wrth ymweld â bwyty Dylan’s yn Llandudno, dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru fod y diwydiant lletygarwch yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil, amrywiol a chyffrous.
Croeso – Sioe Amaethyddol Môn yn dychwelyd
“Rydyn ni’n croesawu’r newyddion gwych bod un o brif sioeau amaethyddol Cymru, Sioe Môn, yn dychwelyd yr wythnos hon” dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths. “Mae hyn yn newyddion da i’r diwydiant ffermio ac i’r gymuned wledig ehangach.”
Mwy na 100 o bobl yn cael gwaith yn sector bwyd a diod Cymru
Mae ymgyrch sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru wedi helpu rhagor na 100 o bobl i gael gwaith yn sector Bwyd a Diod Cymru yn ystod tri mis peilot yr ymgyrch.