Newyddion

Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 31 o 331

Press release header - red with logo-2

Cytundeb cyllideb wedi'i gyrraedd

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyrraedd cytundeb a fydd yn caniatáu i’r gyllideb ar gyfer 2026-27 gael ei phasio ac yn sicrhau bron i £300m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Welsh Government

Ddim yn rhy hwyr i blant gael eu hamddiffyn rhag y ffliw cyn y Nadolig

Mae rhieni y mae eu plant wedi colli eu brechlyn ffliw yn yr ysgol yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig yn fuan gan fod y ffliw ar gynnydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Welsh Government

£2.5m ychwanegol ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru

Mae £2.5m arall o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Welsh Government

Yn syth o'r wasg! £210,000 i hybu newyddiaduraeth ledled Cymru

Mae prosiectau wedi'u cynllunio i gefnogi a chynnal sector newyddiaduraeth Cymru wedi derbyn cyllid.

Welsh Government

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi £2m i Ganolfan Blant Trelái a Chaerau

Disgwylir i Ganolfan Blant Trelái a Chaerau gael ei thrawsnewid gan bron i £2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau a chynyddu'r ddarpariaeth gofal plant i deuluoedd lleol.

Welsh Government

Y Prif Weinidog yn croesawu arweinwyr gwleidyddol i Gymru i ddathlu'r diwydiannau creadigol

Mae’r Prif Weinidog wedi groesawu arweinwyr gwleidyddol i Gymru ar gyfer y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a fydd yn trafod rhyddhau potensial y diwydiannau creadigol.

04.12.25 DFM Gilwern Canal 20-2

Sicrhau dyfodol Camlas hanesyddol Sir Fynwy ac Aberhonddu

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw gan y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn sicrhau diogelwch i fusnesau, cymunedau a bywyd gwyllt sy'n dibynnu ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.   

Welsh Government

Atal afiechyd yn flaenoriaeth frys yn ôl prif feddyg Cymru

Rhaid i Gymru symud ar frys tuag at ddull atal yn gyntaf o ymdrin ag iechyd i fynd i'r afael â chyfraddau disgwyliad oes sy'n aros yn eu hunfan a phwysau cynyddol ar ei gwasanaethau iechyd, yn ôl Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol a gyhoeddwyd heddiw.

Welsh Government

Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, yn galw am wrthdroi penderfyniadau ar ddau wasanaeth rheilffordd allweddol yng Ngogledd Cymru a'r Gororau

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi mynegi ei 'bryder dwfn' am benderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) i leihau dau wasanaeth Avanti sy'n effeithio ar Ogledd Cymru a'r goroau yn ei newid amserlen ym mis Rhagfyr.

Mark Drakeford MS Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language (Landscape) cropped

Cyhoeddi pecyn cymorth ardrethi busnes gwerth £116m

Bydd cynllun rhyddhad trosiannol newydd yn helpu busnesau i reoli newidiadau ardrethi o fis Ebrill nesaf.

Launch of women's health materials for schools with Cardiff and Vale Youth Board and Minister for mental health and wellbeing-2

Pobl ifanc i gael gwybodaeth newydd am iechyd menywod

Bydd deunyddiau addysg newydd ar gael i'n holl ddisgyblion ysgol er mwyn iddynt allu dysgu am y cyflyrau iechyd cyffredin sy'n gallu effeithio ar fenywod.

Welsh Government

Hwb o £36 miliwn ar gyfer cartrefi fforddiadwy ac uwchraddio gwyrdd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailagor ei Chynllun Benthyciadau Datblygu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) ar gyfer 2025/26 ac wedi dyrannu £36 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu cartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol a helpu i wella cartrefi presennol.