Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 34 o 320
Gall pob plentyn dwy oed ym Merthyr Tudful nawr dderbyn gofal plant Dechrau'n Deg am ddim
Gall pob plentyn dwy oed ym Merthyr Tudful nawr gael gofal plant am ddim, sef yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ehangu rhaglen gofal plant Dechrau'n Deg ar draws ei ardal.
Tîm y DU yn ennill yng nghystadleuaeth EuroSkills gyda doniau o Gymru
Mae Tîm y DU wedi gwneud perfformiad trawiadol yng nghystadleuaeth EuroSkills yn Nenmarc, gyda Chymru yn chwarae rhan allweddol gan ennill traean o’r medalau a gipiodd y DU.
Cronfa gwerth £3m yn rhoi bywyd newydd i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau Cymru
Mae adfer organ bibell hanesyddol Pontypridd yn llawn yn un o 29 o brosiectau diwylliannol lleol sydd ar y cyd yn derbyn dros £3m o gyllid gan Lywodraeth Cymru heddiw.
£4.4 miliwn ar gyfer offer diagnostig newydd yn ysbytai'r Gogledd
Bydd offer pelydr-x newydd, mwy dibynadwy, sy’n rhoi delweddau o safon uwch, yn cael eu cyflwyno i ysbytai ar draws y Gogledd.
Rhaglen allforion yn cynyddu refeniw busnes o £60 miliwn
Mae rhaglen cymorth busnes llwyddiannus Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb o fwy na £60 miliwn i refeniw'r busnesau sy'n cymryd rhan drwy allforio – gyda 15 o gwmnïau eraill bellach wedi'u dewis i gyflymu eu potensial allforio a thyfu ymhellach drwy fasnach ryngwladol.
Bil diogelwch tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru yn dod yn gyfraith yn seremoni y Big Pit
Mae deddfwriaeth nodedig i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achosir gan orffennol mwyngloddio Cymru wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw, gan ddod yn gyfraith.
Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
Gall grwpiau cymunedol ledled Cymru nawr wneud cais am grantiau o hyd at £25,000 gan Lywodraeth Cymru i wella neu ddatblygu cyfleusterau lleol.
Mynediad am ddim i blant i safleoedd Cadw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr
Ddydd Sul nesaf [dydd Sul 14 Medi], bydd llawer o safleoedd diwylliannol, cestyll a henebion ledled Cymru yn rhad ac am ddim i blant ymweld â nhw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr.
Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am ddiweddaru deddfau trethi
Rydym yn gofyn i bobl sut maen nhw’n meddwl y dylai Cymru reoli newidiadau i gyfraith trethi yn y dyfodol.
Helpu i ddiogelu gorffennol Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Mae trigolion sy'n byw ger adeiladau hanesyddol a safleoedd treftadaeth yng Nghymru yn cael eu hannog i adrodd ynghylch ymddygiad amheus yn dilyn achosion diweddar o fandaliaeth a throseddau treftadaeth.
Uwchraddio offer diagnostig yng Ngorllewin Cymru
£481,000 gan Lywodraeth Cymru i wella system camera gama Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg a rhoi hwb i ddiagnosteg.
Cyn-gomisiynydd plant i gadeirio asesiad Cymru gyfan o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
Bydd y cyn-gomisiynydd plant, Sally Holland, yn cadeirio’r asesiad annibynnol o’r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.