Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 29 o 248
Hwb o £1m i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru.
Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar ddysgu 14-16 o dan y Cwricwlwm i Gymru
Rhifedd? Llythrennedd? Sgiliau Bywyd? Cyngor ar yr hyn i'w wneud nesaf? Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd rhieni i roi eu barn ar yr hyn y dylai pobl ifanc 14-16 oed ei ddysgu.
Cytundeb pedair blynedd yn sicrhau twf a sefydlogrwydd i Bad Wolf yng Nghymru.
Bydd cytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni cynhyrchu arobryn o Gaerdydd, Bad Wolf, yn sicrhau y bydd nifer o ddramâu teledu o safon uchel yn cael eu gwneud yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf.
“Mae'r Gyllideb hon wedi'i chynllunio i ddiogelu'r gwasanaethau craidd rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.”– Y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans
Mae Cyllideb Derfynol Cymru ar gyfer 2024 i 2025 wedi'i chyhoeddi heddiw [Dydd Mawrth 27 Chwefror], wrth i chwyddiant uchel barhau i erydu cyllid cyhoeddus ac wrth i ddewisiadau anodd gael eu gwneud i ddiogelu gwasanaethau craidd.
£5.9m o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sy'n buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi
Mae dros hanner cant o brosiectau wedi cael £5.9m o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn offer a fydd yn helpu i ddatblygu a gwreiddio cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd.
Gwelliannau mewn gofal anhwylderau bwyta ledled Cymru
Mae mwyafrif helaeth y bobl sydd angen triniaeth am anhwylder bwyta yn cael eu gweld yng Nghymru ac yn cael eu trin yn eu cymunedau lleol.
Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid: Cyhoeddi enillwyr
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu'r gwaith ieuenctid rhagorol sy'n digwydd ledled Cymru. Cafodd enillwyr y gwobrau eleni eu cyhoeddi neithiwr mewn seremoni yn Llandudno.
Llywodraeth Cymru yn helpu plant i fwynhau Llond Ceg o lysiau.
Mae Bwytewch y Llysiau i'w Llethu yn dychwelyd am ei chweched flwyddyn. Y nod yw gwneud llysiau'n hwyl, gwella deiet plant a chynyddu faint o lysiau y maen nhw’n eu bwyta.
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi enwau teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2024
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi mewn digwyddiad yn y Senedd pwy sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.
Cadw Ffermwyr i Ffermio. Gwnewch yn siŵr ein bod yn gwybod eich barn – rydyn ni'n gwrando
Wrth i bythefnos olaf yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau, mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed
Ymateb y Gweinidog Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
£2.5m yn ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael gwaith neu hyfforddiant pellach
Mae rhaglen sy'n darparu'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc i gael swydd, neu barhau â'u hyfforddiant neu ddychwelyd i addysg yn cael £2.5m o gyllid ychwanegol.