Newyddion
Canfuwyd 3209 eitem, yn dangos tudalen 27 o 268

Gwaith hanfodol ar ffordd yr A470
Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn teithio ar yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach. Mae gwaith trwsio mawr ar fin dechrau a fydd yn golygu cau'r ffordd yn llwyr o 31 Hydref tan 20 Rhagfyr 2024.

Y Prif Weinidog i fynd i gyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau
Bydd cyfleoedd i sicrhau twf a buddsoddiad ar frig yr agenda pan fydd arweinwyr y pedair gwlad yn cwrdd yng nghyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau yn yr Alban heddiw.

Cyfrifoldeb ar gyflogwyr i gefnogi iechyd meddwl staff – meddai'r Gweinidog
Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cefnogi iechyd meddwl yn y gweithle ar ymweliad â chyflogwr sy'n arwain y ffordd yn y maes hwn.

Gwaith ffordd hanfodol i'w wneud ar yr A40
Caiff modurwyr eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio ar yr A40 rhwng Halfway a Llanymddyfri rhwng 12 Hydref a 6 Mai wrth i waith ffordd sylweddol gael ei wneud i sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor y ffordd.

Diwrnod Digartrefedd y Byd: Gweithio gyda'n gilydd i roi terfyn ar ddigartrefedd a'i atal
“Diwrnod Digartrefedd y Byd hwn, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn ein cymunedau ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio rhwng awdurdodau lleol, partneriaid adeiladu a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.”

Technolegau arloesol yn creu cartrefi cynhesach fforddiadwy
Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, ar ymweliad â datblygiad tai cymdeithasol carbon isel yng Nghaerdydd.

Canolfan Gymorth Gymunedol yn agor i gefnogi'r rhai y mae penderfyniad pontio Tata yn effeithio arnynt
Mae Canolfan Gymorth Gymunedol newydd yn agor yng Nghanolfan Siopa Aberafan heddiw i ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor ar ailhyfforddi i unigolion a busnesau y mae penderfyniad Tata Steel UK i ddefnyddio dulliau mwy gwyrdd o wneud dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt.

Gwaith amddiffyn rhag llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd yn diogelu un o drefi eiconig Ceredigion ar gyfer y dyfodol
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, wedi ymweld ag Aberaeron i weld cynnydd cynllun atal llifogydd gwerth £31.5m.

"Mae'r ffordd rydyn ni'n trochi plant yn yr Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru"
Heddiw, (dydd Mawrth 8 Hydref) mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle yn dathlu gwaith canolfannau trochi wrth i'r galw am ddarpariaeth trochi hwyr barhau i dyfu - gyda Chymru'n cael ei hystyried yn arweinydd byd-eang yn y maes.

Lansio rownd nesaf cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5m
Mae rownd nesaf cronfa dwristiaeth sy'n gwella profiadau ymwelwyr ledled Cymru wedi cael ei lansio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Gostwng oedran sgrinio'r coluddyn i 50 yng Nghymru
Bydd miloedd yn fwy o bobl yn derbyn profion sgrinio'r coluddyn gartref yn awtomatig i helpu i achub mwy o fywydau.

Cymru i gynnal digwyddiad cynaliadwyedd rhyngwladol mawr
Bydd siaradwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o'r byd yn ymgynnull yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf wrth i Gymru gynnal Hotspot Economi Gylchol Ewrop am y tro cyntaf.