Newyddion

Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 37 o 320

St Giles 4

Gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys hanesyddol Sant Silyn bron wedi dod i ben

Mae gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys Sant Silyn yn Wrecsam bron wedi dod i ben, gan sicrhau dyfodol yr eglwys hanesyddol am flynyddoedd lawer i ddod.

Welsh Government

Darllenwyr ifanc yn barod am antur ddarllen yr haf

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn cael eu dathlu yr haf hwn gyda rhaglen gyffrous wedi'i chynllunio i ennyn diddordeb plant mewn darllen yn ystod gwyliau'r ysgol a buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau digidol.

Welsh Government

Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â chwpl sy'n elwa ar gymorth byw'n annibynnol

Mae buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn helpu miloedd yn fwy o bobl hŷn ac anabl i fyw'n fwy annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Cardiff content creators August 2025

Taith, camera, action! Mae'r Unol Daleithiau a Chymru yn ymuno mewn rhaglen gyfnewid ryngwladol i ddysgu am y diwydiant ffilm a theledu

Mae grŵp o ddysgwyr o Califfornia wedi ymuno â grŵp ieuenctid o Gymru mewn gwersyll am bythefnos i ddysgu am y cyfryngau digidol drwy ymweliad a wnaed yn bosibl diolch i raglen Taith.

Jeremy Miles (L) cropped

Cwrs Cymraeg newydd i gryfhau gofal i gleifion

Bydd cwrs newydd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i ddiwallu anghenion cleifion sy'n siarad Cymraeg ac yn datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu.

Dr Gwenllian Lansdown Davies-4

Penodi Prif Weithredwr Corff Dysgu Proffesiynol Newydd

Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin ar hyn o bryd, wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr ar gorff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd y sector addysg.

Sarah Murphy MS Minister for Mental Health and Wellbeing

Ymgynghoriad ar godi'r isafbris alcohol yng Nghymru

Gallai nifer y bobl sy’n yfed mewn modd niweidiol gael ei leihau gan bron i 5,000 o ganlyniad i gynlluniau i godi’r isafbris uned alcohol yng Nghymru.

Mark Drakeford MS Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language (Landscape) cropped

Galw mawr am wersi Cymraeg yn Wrecsam wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal

Mae'r nifer o  bobl sy'n cychwyn gwersi Cymraeg yn ardal Wrecsam ar y lefel uchaf erioed - ac oedd 640 o bobl wedi cwblhau cwrs yn 2023-24. Mae hyn yn gynnydd o 82% ers 2017-18.

Welsh Government

Eluned Morgan yn nodi blwyddyn yn Brif Weinidog

Mae Eluned Morgan wedi bod yn sôn am flwyddyn o gyflawni'r hyn mae pobl Cymru ei eisiau, ers iddi gael ei phenodi'n Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru flwyddyn yn ôl i heddiw.

Welsh Government

Diwrnod Chwarae Cenedlaethol: Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd mannau chwarae o safon ym mywydau plant

Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn dathlu pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, ac yn tynnu sylw at werth mannau chwarae hygyrch a chynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc.

Welsh Government

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £17m ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi a dinasoedd ledled Cymru.

BT bilingual-2

Newidiadau i gyfyngiadau'r Tafod Glas wedi'u cadarnhau ar gyfer gwerthiannau a marchnadoedd yr hydref

Bydd newidiadau pwysig i gyfyngiadau'r Tafod Glas sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd yn dod i rym bythefnos heddiw.