Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 41 o 320
Bil y Gymraeg ac Addysg yn derbyn Cydsyniad Brenhinol
Mae deddfwriaeth nodedig i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw, sy'n ei gwneud yn gyfraith.
Deddfwriaeth newydd i wella diogelwch adeiladau yng Nghymru
"Diogelwch, atebolrwydd, a lleisiau preswylwyr."
Prosiect cadwraeth gylfinirod yn codi i’r awyr!
I nodi dechrau Wythnos Natur Cymru, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi gweld drosto'i hun ymdrechion cadwraeth sydd ar waith i achub un o’r adar sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru – gylfinirod.
Hwb i amgylchedd morol Cymru gan gynllun arloesol i ailgylchu offer pysgota
Mae mwy na 15 tunnell o offer pysgota diwedd oes wedi'u hailgylchu ers 2023 drwy fenter ailgylchu arloesol ledled Cymru, gan helpu i ddiogelu amgylcheddau morol a rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu.
Ydych chi’n gymwys i hawlio hyd at £200 i helpu gyda chostau ysgol?
Mae hyd at £200 ar gyfer pob dysgwr ar gael i helpu gyda chostau'r diwrnod ysgol, ac mae'r cyfnod i hawlio ar agor.
£4.8 miliwn i gyflymu sganiau yn ysbyty mwyaf Abertawe
Bydd mwy o bobl yn cael eu gweld, yn cael diagnosis, ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi buddsoddiad o £4.8 miliwn mewn offer newydd.
Cyfarthfa yn dathlu 200 mlynedd gyda hwb o £4.5miliwn
Wrth i Gastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, mae rheswm arall i ddathlu - bydd Ardal Dreftadaeth eiconig Cyfarthfa yn cael £4.5miliwn i ymgymryd â gwaith cadwraeth brys i helpu i sicrhau ei dyfodol am flynyddoedd lawer mwy i ddod.
Penodi Dirprwy Brif Swyddog Meddygol newydd
Mae Dr James Calvert wedi'i benodi'n Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol newydd i Gymru.
Mannau cymunedol hanfodol yn cynnig croeso cynnes drwy gydol y flwyddyn
Mae mwy na 600 o fannau cymunedol ledled Cymru yn elwa ar £1.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddarparu lleoedd cynnes, diogel a chroesawgar i bobl drwy gydol y flwyddyn.
Dechrau ar y gwaith o drawsnewid y llinell o Wrecsam i Lerpwl
Mae gwaith i drawsnewid y llinell o Wrecsam i Lerpwl wedi cael ei gadarnhau, a'r gwaith o uwchraddio'r llinell yn Padeswood fydd y cam mawr cyntaf i sicrhau mwy o wasanaethau rheilffordd rhwng y ddwy ddinas.
Hwb o £9.49m ar gyfer triniaeth canser yn y Gogledd
Bydd mwy o bobl yn derbyn triniaeth radiotherapi wrth i Ysbyty Glan Clwyd gael peiriannau trin canser newydd.
Iwerddon a Chymru i lofnodi cytundeb cydweithredu newydd tan 2030
Bydd Fforwm Iwerddon-Cymru'n cytuno heddiw i ddyfnhau'r cydweithrediad rhwng Iwerddon a Chymru dros y pum mlynedd nesaf trwy lofnodi Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2030.