Newyddion

Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 45 o 331

Welsh Government

£4.4 miliwn ar gyfer offer diagnostig newydd yn ysbytai'r Gogledd

Bydd offer pelydr-x newydd, mwy dibynadwy, sy’n rhoi delweddau o safon uwch, yn cael eu cyflwyno i ysbytai ar draws y Gogledd.

Welsh Government

Rhaglen allforion yn cynyddu refeniw busnes o £60 miliwn

Mae rhaglen cymorth busnes llwyddiannus Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb o fwy na £60 miliwn i refeniw'r busnesau sy'n cymryd rhan drwy allforio – gyda 15 o gwmnïau eraill bellach wedi'u dewis i gyflymu eu potensial allforio a thyfu ymhellach drwy fasnach ryngwladol.

Welsh Government

Bil diogelwch tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru yn dod yn gyfraith yn seremoni y Big Pit

Mae deddfwriaeth nodedig i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achosir gan orffennol mwyngloddio Cymru wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw, gan ddod yn gyfraith.

Welsh Government

Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

Gall grwpiau cymunedol ledled Cymru nawr wneud cais am grantiau o hyd at £25,000 gan Lywodraeth Cymru i wella neu ddatblygu cyfleusterau lleol.

Caernarfon Castle

Mynediad am ddim i blant i safleoedd Cadw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr

Ddydd Sul nesaf [dydd Sul 14  Medi], bydd llawer o safleoedd diwylliannol, cestyll a henebion ledled Cymru yn rhad ac am ddim i blant ymweld â nhw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr.

Mark Drakeford MS Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language (Landscape) cropped

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am ddiweddaru deddfau trethi

Rydym yn gofyn i bobl sut maen nhw’n meddwl y dylai Cymru reoli newidiadau i gyfraith trethi yn y dyfodol.

Welsh Government

Helpu i ddiogelu gorffennol Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae trigolion sy'n byw ger adeiladau hanesyddol a safleoedd treftadaeth yng Nghymru yn cael eu hannog i adrodd ynghylch ymddygiad amheus yn dilyn achosion diweddar o fandaliaeth a throseddau treftadaeth.

Jeremy Miles (L) cropped

Uwchraddio offer diagnostig yng Ngorllewin Cymru

£481,000 gan Lywodraeth Cymru i wella system camera gama Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg a rhoi hwb i ddiagnosteg.

Welsh Government

Cyn-gomisiynydd plant i gadeirio asesiad Cymru gyfan o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Bydd y cyn-gomisiynydd plant, Sally Holland, yn cadeirio’r asesiad annibynnol o’r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

X-ray (6)

£1.3m i uwchraddio ystafell pelydr-x yn Abertawe

Bydd pobl yn Abertawe yn elwa o gael diagnosis yn gynt yn dilyn buddsoddiad o £1.3m gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio cyfleusterau pelydr-x yn adran argyfwng Ysbyty Treforys.

Prawf argyfwng

Sut i amddiffyn ffonau diogelwch cudd yn ystod y prawf rhybuddion argyfwng

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori'r cyhoedd cyn prawf rhybuddion argyfwng cenedlaethol ar 7 Medi, gyda chanllawiau penodol i'r rhai a allai fod yn cadw ffôn symudol cudd am resymau diogelwch.

Welsh Government

Gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd i gael eu gwneud ar yr A494 ger Clwyd Gate

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i wneud cyfres o welliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd ar yr A494 ger Clwyd Gate.