Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 39 o 320
Datblygu'r Diwydiant Pren yng Nghymru
Mae Cymru yn lansio ei Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren gyntaf heddiw i fanteisio ar y galw cynyddol byd-eang am bren, y disgwylir iddo fod bedair gwaith yn fwy erbyn 2050.
‘Arddangosfa wych’ y Sioe Frenhinol ddim yn bosibl heb ein ffermwyr ni – Dirprwy Brif Weinidog
Wrth i Sioe Frenhinol Cymru ddechrau yn Llanelwedd, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi canmol ffermwyr am fod yn 'asgwrn cefn ein cymunedau gwledig'.
GIG Cymru i gynnig amddiffyniad cyfnod hir rhag un o feirysau cyffredin y gaeaf i fabanod cynamserol
Bydd babanod sy'n cael eu geni'n gynnar iawn yn cael cynnig amddiffyniad rhag y feirws syncytiol anadlol (RSV) drwy feddyginiaeth gwrthgyrff cyfnod hir.
Lansio cynlluniau newydd ar gyfer rhwydweithiau teithio hygyrch a chynhwysol
Mae cynlluniau newydd wedi'u lansio heddiw i roi mwy o hyder ac annibyniaeth i bobl ledled Cymru wrth deithio.
Grant o £250,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu i drawsnewid Caerllion Rufeinig
Mae prosiect ‘partneriaeth’ newydd i archwilio cyfleoedd posibl yn un o safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf ac a gadwyd orau yn Ewrop wedi sicrhau £250,000 o gyllid grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Awydd i lwyddo: 50 miliwn o brydau am ddim wedi'u mwynhau gan ddysgwyr cynradd Cymru
Wrth i'r flwyddyn gyntaf o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd gael ei chwblhau, mae'n nodi carreg filltir arwyddocaol arall - dros 50 miliwn o brydau bwyd wedi'u gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru ers i'r rhaglen ddechrau yn 2022.
Penodi Johanna Robinson yn Gynghorydd Cenedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod
Mae awdurdod blaenllaw ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod wedi cael ei hailbenodi i rôl allweddol gan Lywodraeth Cymru fel Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), yn dilyn proses recriwtio drylwyr.
Categorïau ymateb newydd ar gyfer ambiwlansys er mwyn gwella canlyniadau cleifion strôc
Nod y newidiadau i’r ffordd y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymateb i alwadau yw gwella’r gofal i gleifion sy’n dioddef strôc neu gyflyrau difrifol eraill fel trawiadau ar y galon.
Cynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol y Mwmbwls ar agor
Bydd cartrefi a busnesau yn y Mwmbwls yn Abertawe yn elwa ar well amddiffyniad rhag llifogydd arfordirol, ar ôl cwblhau prosiect amddiffyn arfordirol mawr.
Cynllun 10 mlynedd i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei strategaeth ddeng mlynedd newydd i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru – y strategaeth hirdymor gynhwysfawr gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig.
Y Senedd yn pasio deddfwriaeth i sicrhau diogelwch tomenni o orffennol glofaol a diwydiannol Cymru
Mae Bil sy'n 'gam hanfodol' yn y broses o amddiffyn cymunedau Cymru rhag tomenni nas defnyddir, boed yn rhai glo ac yn rhai di-lo, wedi cael ei basio heddiw gan y Senedd.
Y Prif Weinidog yn addo "cyflawni mwy byth i bobl Cymru" ar drothwy blwyddyn olaf tymor y Senedd
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi traddodi araith yn canolbwyntio ar y pethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf, gan dynnu sylw at y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud mewn meysydd blaenoriaeth, wrth i'r Senedd agosáu at ddechrau toriad yr haf yr wythnos nesaf.