Newyddion
Canfuwyd 185 eitem, yn dangos tudalen 15 o 16

Y Gweinidog Iechyd yn diolch i staff ar ben-blwydd y GIG
Ar ben-blwydd y GIG yn 73 oed, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at bob un o Brif Swyddogion Gweithredol a staff y GIG, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion drwy gydol y pandemig.

Dyfarnu Croes y Brenin Siôr i GIG Cymru am ei ymateb i’r pandemig – ar ben-blwydd y GIG yn 73
Mae Croes y Brenin Siôr wedi’i dyfarnu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, gan gydnabod ymdrech aruthrol pawb sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG yn ystod y pandemig.

Mynnwch eich brechiad – galwch heibio am eich dos y penwythnos hwn
Bydd canolfannau brechu ar draws sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw i mewn o'r penwythnos hwn ymlaen wrth i'r Gweinidog Iechyd alw ar bob oedolyn i gael eu brechu.

Y Gweinidog yn amlinellu llwybr ar gyfer dyfodol gwasanaethau deintyddol yng Nghymru
Heddiw (dydd Iau 1 Gorffennaf), mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi amlinellu llwybr i gynyddu gwasanaethau deintyddol rheolaidd yn raddol yng Nghymru

Fersiwn ddigidol Pàs COVID y GIG ar gael yng Nghymru ar gyfer teithiau brys
Bydd pobl sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn COVID yn gallu gweld eu statws brechu ar y rhyngrwyd o heddiw ymlaen [25ain Mehefin] i gynhyrchu Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol allanol ar frys.

Y Gweinidog Iechyd yn annog pawb i Ddiogelu Cymru yr haf hwn
Bydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn atgoffa pawb i chwarae eu rhan i ddiogelu Cymru yr haf hwn yn ystod cynhadledd i'r wasg y prynhawn yma [21 Mehefin].

'Rhaid inni fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cymorth i’r rheini sy’n gwella o effeithiau COVID-19 – dyna adduned y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wrth i’r rhaglen gymorth Adferiad newydd gael ei lansio
‘Mae buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglen gymorth benodedig ar gyfer y rheini sy’n gwella o effeithiau hirdymor COVID-19 yn hanfodol wrth inni ddechrau ailgodi ar ôl y pandemig’, dyna addewid y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ar ôl cwrdd â chlinigwyr a chleifion.

Cynnig brechlyn i bob oedolyn yng Nghymru yn gynt na’r disgwyl
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi diolch i dimau brechu gwych Cymru, wrth iddi gadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechiad erbyn dydd Llun (14 Mehefin). Mae hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl.

"Cefnogi Cymru drwy gael gwyliau gartref eleni" – Y Gweinidog Iechyd
Wrth i Gymru gychwyn eu hymgyrch Ewro 2020 heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog pobl i fynd ar wyliau gartref yr haf hwn.

Canolfannau Covid yng Ngogledd Cymru yn cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi’u taro waethaf
Mae canolfannau sy'n cynnig cymorth cyfannol i bobl y mae angen iddynt hunanynysu ac i'r rhai sy'n cael eu taro waethaf gan y pandemig yn cael eu cyflwyno mewn cynllun peilot ar draws pum ardal yng Ngogledd Cymru.