Newyddion
Canfuwyd 185 eitem, yn dangos tudalen 11 o 16

Darparu ystod ehangach o wasanaethau mewn fferyllfeydd yng Nghymru
O fis Ebrill 2022, bydd holl fferyllfeydd cymunedol Cymru yn gallu cynnig ystod ehangach o wasanaethau o ganlyniad i ddiwygiadau sylweddol sydd wedi eu cytuno gan y Gweinidog Iechyd.

Cynyddu’r capasiti profi er mwyn dod o hyd i unrhyw achosion o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru
Heddiw, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu'r capasiti ar gyfer dod o hyd i unrhyw achosion o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru

Pob oedolyn cymwys yng Nghymru i gael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr
Heddiw (7 Rhagfyr), bydd y Gweinidog Iechyd yn cadarnhau bod pob oedolyn cymwys yn mynd i gael cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 erbyn diwedd mis Ionawr.

‘Torri’r trosglwyddiad’ – Lansio’r ymgyrch Diogelu Cymru ddiweddaraf
Nod lansio gweithgarwch diweddaraf ymgyrch Diogelu Cymru Llywodraeth Cymru, heddiw (ddydd Llun 6 Rhagfyr), yw ‘torri’r trosglwyddiad’ er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.

Buddsoddi mwy nag erioed yn golygu cynnydd o 15% mewn lleoedd hyfforddi i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel rhan o’r ymateb i’r pandemig
Bydd dros £260m, sef lefel ddigynsail o gyllid, yn cael ei fuddsoddi mewn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru er mwyn helpu’r GIG i ymateb i’r pandemig a heriau’r dyfodol.

Yr achos cyntaf o Omicron wedi’i gadarnhau yng Nghymru
Mae achos o Omicron, yr amrywiolyn sy'n peri pryder, wedi'i gadarnhau yng Nghymru. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y mae’r achos ac mae'n gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

Newidiadau i gontract meddygon teulu i wella mynediad i apwyntiadau
Heddiw (1 Rhagfyr), cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan newidiadau newydd i'r contract meddygon teulu i helpu i wella mynediad at apwyntiadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw (18 Tachwedd).

Buddsoddi dros £51m mewn offer diagnostig newydd i sicrhau bod cyfleusterau GIG Cymru “yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif”
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mwy na £51m yn cael ei fuddsoddi i ddarparu offer newydd yn lle hen offer delweddu diagnostig ar draws GIG Cymru, ac i wella amseroedd aros.

Hwb ariannol o £3m i helpu adferiad gwasanaethau deintyddol yng Nghymru ar ôl y pandemig
Bydd gwasanaethau deintyddol yng Nghymru yn cael £3m ychwanegol o gyllid newydd eleni i gefnogi eu hadferiad o effeithiau’r pandemig a rhoi mynediad ychwanegol i gleifion.

Buddsoddi mewn cyfarpar microbioleg newydd a all ganfod bacteria mewn munudau yn lle oriau a lleihau’r siawns o sepsis
Bydd dros £1.2m yn cael ei fuddsoddi mewn chwe pheiriant dadansoddi bacterol newydd a all ganfod bacteria o heintiau mewn munudau yn hytrach nag oriau.

Y Senedd yn cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG
Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.