Newyddion
Canfuwyd 3622 eitem, yn dangos tudalen 122 o 302
Strategaeth Arloesi newydd wedi'i lansio er mwyn creu Cymru Gryfach, Decach a Mwy Gwyrdd
- Strategaeth arloesi newydd yn nodi dyhead i Gymru fod yn genedl flaengar ac arloesol.
- Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod technolegau newydd arloesol yn cael eu datblygu er mwyn helpu i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu cymunedau, gan sicrhau bod yr atebion hynny'n cyrraedd pob rhan o gymdeithas.
- Drwy gydweithio, y nod yw sicrhau gwell gofal iechyd, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a chreu gwell swyddi a ffyniant i fusnesau, prifysgolion, a chymunedau lleol.
Rhaglen yn cynnig llwybr newydd i addysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Pontio, sef rhaglen sy’n hyfforddi athrawon cynradd i fod yn athrawon uwchradd, yn parhau am y flwyddyn academaidd nesaf.
Cennin Pedr ar Ffurf Calon yn arwydd o Hoffter o Fwyd a Diod o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi
Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn gallu dangos eu bod wrth eu boddau â bwyd a diod o Gymru drwy rannu ffotograffau o osodiad cennin Pedr ar ffurf calon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Ton fawr o ymweliadau mordeithio â Chymru yn 2023
Eleni, bydd Cymru’n croesawu’r nifer uchaf o fordeithiau hyd yma, gyda disgwyl i 91 o longau alw heibio i borthladdoedd yng Nghymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fis Ebrill y llynedd, gwnaethom osod targed i gael gwared â nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn 2022. Roeddem yn gwybod y byddai’n heriol, ond roeddem am weld byrddau iechyd yn canolbwyntio eu hymdrechion ar hyn. Rydym yn siomedig na chafodd y targed uchelgeisiol hwn, na osodwyd yn Lloegr, ei gyflawni."
Cefnogaeth Cyswllt Ffermio gwerth dros £22 miliwn ar gyfer ffermwyr Cymru
Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn eu cefnogi wrth iddynt baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Cynllun yn anelu at helpu mwy na 10,500 o bobl i gael gwaith
Mae cynllun newydd yn anelu at helpu mwy na 10,500 o bobl, sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau neu alcohol neu sydd â salwch meddwl, i gael addysg, hyfforddiant neu waith. Cafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru.
Mwy na £5.4miliwn ar gyfer Amgueddfa Pêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £5.45m ychwanegol i Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam.
Darpar feddygon yn ffynnu yng ngogledd Cymru
Mae’r rhaglen Meddygon Seren, sy'n helpu plant oedran ysgol i fynd ymlaen i astudio Meddygaeth yn y brifysgol, yn gweld canlyniadau rhagorol yng ngogledd Cymru.
Cynllun ailgylchu anadlyddion yn helpu i leihau allyriadau GIG Cymru wrth i gronfa gyllid werth £800,000 gael ei lansio
Mae cynllun ailgylchu anadlyddion sy'n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru yn helpu GIG Cymru i leihau ei allyriadau carbon ac i weithio tuag at uchelgeisiau Sero Net, wrth i gronfa gyllid werth £800,000 agor ar gyfer y sectorau gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned.
Cadw cŵn dan reolaeth i ddiogelu ŵyn ac anifeiliaid fferm
Mae perchenogion cŵn yn cael eu hatgoffa i gadw eu hanifeiliaid o dan reolaeth pan mae yna ddefaid ac anifeiliaid fferm o gwmpas.
Tair blynedd ers Storm Dennis
Ers i Storm Dennis daro Cymru ym mis Chwefror 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £194m i helpu gyda'r perygl o lifogydd.