Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 117 o 248
Ehangu rhaglen dŵr gwastraff ledled Cymru
Mae rhaglen sy’n cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru i brofi dŵr gwastraff ar gyfer COVID-19 wedi’i hehangu yng Nghymru i gynnwys pob bwrdd iechyd a phob awdurdod lleol ar draws 48 safle.
£8.1bn i gefnogi seilwaith gwyrdd
Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi dweud mai’r "uchelgais cyffredinol" yn Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar ei newydd wedd yw mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Gwasanaethau Cymunedol a Sylfaenol yn helpu i drin pobl sydd â COVID hir
Yn ôl adolygiad o raglen COVID hir Cymru, mae’r rhaglen yn helpu i drin a rheoli anghenion pobl sy’n wedi ceisio cymorth gyda’u symptomau.
Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022: Gweinidog yn ymrwymo £366m i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yng Nghymru
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi ar ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 y bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366m dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Mwy o daliadau Glastir yn cael eu talu ym mis Ionawr
Mae mwy o daliadau Glastir wedi’u talu’n gynnar yn y cyfnod talu i fusnesau ffermio yng Nghymru, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Lansio adnodd ar-lein ar newydd wedd sy'n darparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc
Mae adnodd ar-lein gyda'r nod o helpu pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i ddod o hyd i gymorth iechyd meddwl wedi cael ei ail-lansio er mwyn cynnwys gwybodaeth a chyngor newydd.
Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi lleoliadau coedlannau coffa Cymru
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi’r lleoliadau lle bwriedir plannu coedlannau coffa cyntaf Cymru i gofio’r bobl a fu farw yn ystod y pandemig.
Buddsoddiad o bron i £11 miliwn i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer canser y fron yng Ngwent
Mae bron i £11 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn ‘canolfan ragoriaeth’ ar gyfer canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr mewn ymgais i wella gofal i gleifion.
Dim tâl am deithio ar fws yng Nghasnewydd ym mis Mawrth
Bydd teithwyr ar fysiau yng Nghasnewydd ym mis Mawrth yn cael teithio am ddim, diolch i gynllun peilot newydd sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dros £190,000 i Mudiad Meithrin i helpu i feithrin siaradwyr Cymraeg newydd
Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi £191,000 ychwanegol i gefnogi Mudiad Meithrin, gan gynnwys cyllid i helpu i ailddechrau grwpiau Cylch Ti a Fi i rieni a phlant bach.
Lle amlwg ar gyfer bwyd a diod o Gymru mewn digwyddiad mawr yn Dubai
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynnyrch yn Dubai ym mis Chwefror yn Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd.
Cynnydd mawr yn yr adnoddau i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth iddyn nhw roi tystiolaeth
Mae proses newydd i alluogi dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i roi tystiolaeth yn ddiogel drwy gyfleuster cyswllt fideo wedi lansio ledled Cymru.