English icon English

Newyddion

Canfuwyd 2968 eitem, yn dangos tudalen 113 o 248

Welsh Government

Yr aelwydydd ar yr incwm isaf yng Nghymru i gael y gyfran fwyaf o gyllid yr ymateb i’r argyfwng costau byw

Bydd y rhan fwyaf o gymorth y pecyn cymorth costau byw gwerth £330m yng Nghymru yn mynd i’r aelwydydd ar yr incwm isaf, yn ôl dadansoddiad newydd.

Grey-Thompson Tanni-2

Penodi'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden bod y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi'i phenodi'n Gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru.

Endometriosis Nurses - CNO - Minister-2

Nyrsys endometriosis newydd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis

Mae nyrsys endometriosis newydd wedi cael eu penodi ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i wella gwasanaethau ar gyfer y cyflwr cronig sy’n effeithio ar un o bob 10 menyw.

Welsh Government

Gweinidog yn datgelu cynllun newydd i gael mwy o bobl yng Nghymru i weithio

Heddiw mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi datgelu cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl yng Nghymru i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Lynne Neagle (P)

Dros £7m o gyllid i ymestyn gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein

Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cadarnhau £7.7m o gyllid yn ychwanegol i barhau â gwasanaeth SilverCloud Cymru am dair blynedd arall. SilverCloud Cymru yw’r adnodd ar-lein am ddim sy’n cefnogi iechyd meddwl. Bydd y gwaith yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Welsh Government

Cadeirydd ac aelod newydd wedi cael eu penodi i Fwrdd Gyrfa Cymru

Mae Erica Cassin wedi cael ei phenodi'n Gadeirydd newydd Bwrdd Gyrfa Cymru, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi penodi James Harvey yn aelod o'r Bwrdd.

Welsh Government

Cynllun Tymor Hir i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws

Yfory (dydd Gwener 4 Mawrth), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi cynllun tymor hwy Cymru i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws.

schools reading

Cwmni Adnoddau Addysg Dwyieithog yn cael ei greu gan Gymru, i Gymru

Ar Ddiwrnod y Llyfr mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu cwmni adnoddau addysg dwyieithog. Bydd y fenter newydd yn sicrhau bod amrywiaeth o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru newydd.

MicrosoftTeams-image (2)-2

Ehangu'r Cynnig Gofal Plant gan roi rhagor o gyllid i ddarparwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y caiff y Cynnig Gofal Plant ei ehangu i gynnwys rhieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu.

welsh flag-2

Cenhedloedd datganoledig yn beirniadu cynlluniau annerbyniol a diangen Llywodraeth y DU i ollwng y Ddeddf Hawliau Dynol

Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi disgrifio cynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau fel ymosodiad ar ryddid pobl ar sail ideoleg.

Rhiw Cehn Glwad016 (copy)

Rheolau treth newydd ar gyfer ail gartrefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd i bremiymau’r dreth gyngor ar y lefel uchaf y gellir ei defnyddio ar gyfer ail gartrefi, gan gynnwys rheolau treth lleol newydd ar gyfer llety gwyliau.

Welsh Government

Prif Weinidog Cymru yn trafod y sefyllfa yn Wcráin tra ym Mrwsel ar gyfer ymweliad Dydd Gŵyl Dewi

Bydd y sefyllfa yn Wcráin ar frig yr agenda wrth i’r Prif Weinidog ymweld â Brwsel Ddydd Mercher ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda diplomyddion a seneddwyr.