Newyddion
Canfuwyd 3779 eitem, yn dangos tudalen 125 o 315
Llywodraeth Cymru'n cyflwyno’r camau nesaf ar gyfer trawsnewid canol trefi
Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â Chastell-nedd i weld sut y gall adfywio helpu canol trefi i ffynnu.
Cymru yn cadw system ad-dalu benthyciadau decach i fyfyrwyr
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn cadw ei system ad-dalu cyllid decach a blaengar, er gwaethaf newidiadau yn Lloegr.
Mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ac yn osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty.
Bob mis mae miloedd o bobl yn cael gofal yn y gymuned ac mewn mannau heblaw adrannau brys, diolch i raglen i leihau'r pwysau ar ofal brys ac argyfwng yng Nghymru.
“Gwnewch wisg ysgol yn rhatach” meddai’r Gweinidog Addysg
Wrth gyhoeddi canllawiau statudol newydd heddiw mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi na ddylai logos ar wisg ysgol fod yn orfodol.
Llinell wrando 24 awr bellach yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy’n byw gyda chyflyrau niwrowahanol
Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi bod cymorth a chyngor 24 awr ar gael bellach i deuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol.
Myfyrwyr sy’n wneuthurwyr ffilmiau yn dangos amrywiaeth yn y gweithlu addysg
Mae Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd wedi gosod y carped coch ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau ifanc o Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Glantaf.
£11m ar gyfer prosiectau cadwraeth i helpu bywyd gwyllt Cymru sydd mewn perygl
Heddiw, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi cronfa gwerth £11m i helpu i atal dirywiad bywyd gwyllt Cymru, wrth iddi gwrdd â gwyddonwyr sy'n gweithio i achub yr eog gwyllt. Yn ôl arbenigwyr gallai'r pysgodyn hynafol ddiflannu o afonydd Cymru erbyn 2030.
Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn arwyddo cytundeb partneriaeth newydd
- Mae asiantaeth arloesedd y DU, Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun ar y cyd er mwyn helpu i ddatblygu economi Cymru.
- Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidog Economi Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Innovate UK, y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf i’w gytuno gyda llywodraeth ddatganoledig.
- Bydd y cynllun yn golygu bod Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i greu cyfleoedd i arloeswyr ac entrepreneuriaid ledled Cymru.
Cefnogi cymunedau ffyniannus ar draws Cymru
Heddiw [dydd Iau Ebrill 27], bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn gweld sut mae'r Cytundeb Cydweithio yn cefnogi cymunedau ffyniannus mewn cyfres o ymweliadau yn Sir Benfro.
NAWR AR AGOR: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd — diolch i fuddsoddiad gwerth £5m
Ar ôl tair blynedd o waith, mae’r prosiect gwella i brif borthdy’r Castell wedi’i gwblhau.
Lansio Strategaeth gyntaf Cymru ar gyfer Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad
Bydd strategaeth gyntaf erioed Cymru i fynd i'r afael â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad yn cael ei lansio ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Iau.
Ymchwilwyr ifanc yn cael eu canmol am eu gwaith ar adroddiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant yng Nghymru
Mae grŵp o bobl ifanc wedi cael eu canmol am eu gwaith ar adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn am brofiadau pobl ifanc a’u hawliau dynol yng Nghymru, gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.