Newyddion
Canfuwyd 20 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg yn clywed gan ddysgwyr a staff o'r Gogledd
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi cwrdd â dysgwyr ac athrawon o'r Gogledd i weld drosti'i hun sut mae cynaliadwyedd wedi helpu i siapio adeiladau ysgol newydd, a sut mae cynlluniau yng Ngwynedd yn cefnogi siaradwyr newydd i ddysgu Cymraeg.
Y Gymraeg ym mhob cymuned: creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg
- Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o 31 argymhelliad adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.
- Fe wnaeth yr adroddiad, Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg, edrych ar y Gymraeg mewn ardaloedd sydd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg.
- Bydd yr ymateb hwn, ynghyd â’r gwaith sydd eisoes ar y gweill mewn cymunedau â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg, yn helpu i lunio strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg.
Cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8
- Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ledled Cymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n byw ar aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol.
- Bydd pob awdurdod lleol yn rhoi prydau bwyd i ddysgwyr cymwys erbyn Ionawr 2027.
- Dylai rhieni a gofalwyr plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n cael Credyd Cynhwysol gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy eu hawdurdod lleol er mwyn sicrhau bod eu plentyn yn gallu manteisio ar bryd o fwyd yn yr ysgol.
Gofyn am farn ar ddyfodol llaeth ysgol am ddim yng Nghymru
- Mae ymgynghoriad 10 wythnos ar ddarpariaeth llaeth i ysgolion yng Nghymru wedi’i lansio.
- Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a ddylid sefydlu Cynllun Llaeth Ysgol Cymru, neu a ddylid dod â’r ddarpariaeth o laeth ysgol am ddim i ben.
- Waeth beth yw canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Cynradd.
UNESCO yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth fyd-eang gan Gymru wrth gefnogi ieithoedd yn yr oes ddigidol
- Defnyddio profiad Cymru o ddatblygu a chefnogi technoleg ddwyieithog i ddatblygu pecyn cymorth newydd UNESCO.
- Mae'r pecyn cymorth yn darparu canllawiau ymarferol i gefnogi gwasanaethau digidol amlieithog.
- Mae UNESCO yn rhannu profiad Cymru yn rhyngwladol i helpu gwledydd a chymunedau eraill i gryfhau'r defnydd o'u hieithoedd yn y byd digidol.
"Mae cyfrifoldeb arnon ni i gael llythrennedd a rhifedd yn iawn, er mwyn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol" – y Gweinidog Addysg
- Cyhoeddi cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr 0-16 oed
- Y cynllun hwn yw cam cyntaf yr ymrwymiad i godi safonau ac mae'n ymateb i bryderon y gweithlu addysg
- Cyflwyno dangosyddion cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ynghyd ag asesiad gwaelodlin newydd ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau'r ysgol
Cyhoeddwyd cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd heddiw (15 Medi). Mae'n amlinellu dangosyddion cenedlaethol newydd, asesiad gwaelodlin ar gyfer plant sy'n dechrau'r ysgol, a chanllawiau i athrawon ar yr hyn y dylai dysgwyr fod yn ei ddysgu ac ym mha gyfnod.
Llywodraeth Cymru a Cosine yn cydweithio i gryfhau deallusrwydd artiffisial Cymraeg
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â Cosine i helpu i wella sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn Gymraeg.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu data, adnoddau ac arbenigedd i gefnogi deallusrwydd artiffisial Cymraeg.
- Nod hyn yw gwella technoleg i helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.
Dweud eich dweud ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion
Mae ymgynghoriad sy’n gofyn am farn ar ganllawiau ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wedi cael ei lansio.
Codi safonau yn gyfrifoldeb ar y cyd – y Gweinidog Addysg
- Mae canlyniadau PISA a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu'r her barhaus o godi safonau yn ysgolion Cymru.
- Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos bod ysgolion Cymru'n gymharol effeithiol wrth gefnogi'r dysgwyr mwyaf difreintiedig.
- Mae'r perfformiad mewn darllen a gwyddoniaeth wedi aros yn weddol sefydlog ers 2022, gan ddarparu sail ar gyfer gwelliant pellach.
- Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi rhoi sicrwydd i athrawon ac arweinwyr na fydd ymateb byrbwyll i'r canlyniadau ac y bydd cynlluniau ar waith i gefnogi ysgolion i godi safonau.
Rhaglen Bwyd a Hwyl dros wyliau'r haf yn cyrraedd carreg filltir o gynnig miliwn o lefydd
Yn ystod yr haf eleni, dechreuodd y Rhaglen Bwyd a Hwyl ar ei hail ddegawd gan ddathlu'r garreg filltir bwysig o gynnig miliwn o leoedd, yn darparu brecwast a chinio maethlon ynghyd â rhaglen weithgareddau ddiddorol i ddysgwyr yn ystod gwyliau'r haf.
Y Gweinidog dros Addysg yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod eu canlyniadau TGAU
Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sy'n derbyn canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.
Teuluoedd cymwys yn gallu cofrestru i gael cymorth â chostau gwisg ysgol cyn y flwyddyn ysgol newydd
- Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael hyd at £200 i helpu gyda chostau gwisg ysgol.
- Mae'r cyfnod ymgeisio wedi cychwyn ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol sy'n cefnogi teuluoedd cymwys â phlant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11.
Wrth i'r paratoadau ddechrau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol, mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa i edrych a ydynt yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol, sy'n helpu dysgwyr gyda chostau gwisg ysgol.