Newyddion
Canfuwyd 56 eitem, yn dangos tudalen 2 o 5
Grantiau ar agor i helpu cymunedau i wella mannau lleol
Gall grwpiau cymunedol nawr wneud cais am grantiau o hyd at £300,000 i wella adeiladau lleol, sicrhau cyfleusterau gwerthfawr a mannau cymorth lle gall pobl ddod at ei gilydd.
Grantiau newydd i helpu pobl i ddod yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol
Bydd pobl ledled Cymru yn elwa o grant newydd gyda'r nod o helpu pawb i ennill y sgiliau digidol sylfaenol, yr hyder a'r mynediad sydd eu hangen i gymryd rhan lawn yn y byd digidol.
Talebau tanwydd yn helpu teuluoedd ledled Cymru i gadw'n gynnes y gaeaf hwn
Mae plant ledled Cymru yn aros yn gynnes gartref y gaeaf hwn, diolch i dalebau tanwydd sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chostau ynni aelwydydd.
Sefyll dros ddiogelwch genethod ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth
Heddiw, wrth edrych ymlaen at Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth, mae Llywodraeth Cymru yn dathlu llwyddiannau genethod gan ailddatgan ei hymrwymiad i'w cadw'n ddiogel, i warchod eu hyder ac i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.
Nodi deng mlynedd ers cyflwyno'r gyfraith ar drais yn erbyn menywod drwy roi addewid o weithredu parhaus
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei hymrwymiad i wneud Cymru'n lle diogel i fenywod a merched, mewn uwchgynhadledd genedlaethol sy'n nodi deng mlynedd ers cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
Gall grwpiau cymunedol ledled Cymru nawr wneud cais am grantiau o hyd at £25,000 gan Lywodraeth Cymru i wella neu ddatblygu cyfleusterau lleol.
Sut i amddiffyn ffonau diogelwch cudd yn ystod y prawf rhybuddion argyfwng
Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori'r cyhoedd cyn prawf rhybuddion argyfwng cenedlaethol ar 7 Medi, gyda chanllawiau penodol i'r rhai a allai fod yn cadw ffôn symudol cudd am resymau diogelwch.
Clwb Pont-hir bellach yn glwb cymunedol bywiog diolch i fuddsoddiad gwerth £300k
Diolch i dros £300,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae clwb Chwaraeon a Chymunedol lleol Pont-hir wedi cael ei droi yn gyfleuster aml-ddefnydd bywiog sy'n cefnogi chwaraeon, addysg a bywyd cymunedol.
Yr Orsaf yn dangos gwerth parhaol cyllid cyfleusterau cymunedol
Mae adeilad ym Mhenygroes a oedd yn wag am flynyddoedd wedi cael ei drawsnewid yn ganolfan gymunedol ffyniannus sydd bellach yn gyfleuster hanfodol i bobl Dyffryn Nantlle.
O fod yn betrusgar i fod yn hyderus: trigolion yn cymryd eu camau digidol cyntaf
Mae trigolion cymdeithasau tai ledled Cymru yn ennill annibyniaeth ac yn magu hyder newydd, diolch i gefnogaeth gan gynllun peilot grant y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol Llywodraeth Cymru.
Dweud eich dweud ar hawliau pobl anabl yn yr Eisteddfod
Mae cyfle i bobl anabl sy'n ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni i helpu i lunio cynllun 10 mlynedd newydd i wneud bywyd yn decach i bobl anabl a chreu newid parhaol yn y ffordd y mae cymdeithas yn mynd i'r afael â rhwystrau i gynhwysiant.
Penodi Johanna Robinson yn Gynghorydd Cenedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod
Mae awdurdod blaenllaw ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod wedi cael ei hailbenodi i rôl allweddol gan Lywodraeth Cymru fel Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), yn dilyn proses recriwtio drylwyr.