Newyddion

Canfuwyd 29 eitem, yn dangos tudalen 1 o 3

Welsh Government

Cymru’n troi’r pedalau tuag at Grand Départ y Tour de France

  • Bydd buddsoddiad o £4.5 miliwn yn helpu i roi hwb i dwristiaeth feicio ledled Cymru cyn Grand Départ y Tour de France yn 2027, gan ddenu mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu etifeddiaeth barhaol i feicio
  • Mae 54 o brosiectau wedi cael cyfran o £3.19 miliwn i wella cyfleusterau a seilwaith beicio, gan gynnwys hybiau beicio, cynlluniau llogi beiciau, llwybrau a mannau gwefru ar gyfer e-feiciau
  • Bydd Cronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod gwerth £1.3 miliwn yn helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fod yn fwy croesawgar i feicwyr a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mwy o ymwelwyr
Welsh Government

Cyfarfod cyntaf y panel arbenigol sy'n cynghori ar asiantaeth datblygu economaidd newydd

  • Y panel cynghori ar asiantaeth datblygu economaidd newydd yn cwrdd am y tro cyntaf. 
  • Disgwylir i'r panel ddod ynghyd dros gyfnod o tua chwe mis cyn cynhyrchu ei adroddiad terfynol a'i argymhellion.  
  • Gofynnir i fusnesau yng Nghymru a rhanddeiliaid allweddol eraill gyfrannu at ddyluniad yr asiantaeth. 
Welsh Government

Ynni lleol yn grymuso cymunedau Powys

  • £1.19 miliwn i ddau sefydliad ym Mhowys drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau yn Llanidloes a Machynlleth, gan helpu sefydliadau lleol i leihau costau ynni a buddsoddi yn eu cymunedau
Welsh Government

Ynni glân yn cryfhau gwasanaethau cymunedol yn Sir Fynwy a Chaerffili

  • Mwy na £600,000 i ddau sefydliad yn Sir Fynwy a Chaerffili drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi elusen chwaraeon gymunedol yn Sir Fynwy a chanolfan gymunedol yng Nghaerffili, gan helpu i leihau costau ynni a darparu mwy o gefnogaeth i bobl leol
Welsh Government

Ynni glân yn cefnogi ysgolion, elusennau a chymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

  • £1.37 miliwn i bum sefydliad ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r pum prosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi ysgolion, sefydliadau cymunedol, elusennau a busnesau, gan eu helpu i leihau costau ynni a darparu mwy o gefnogaeth i bobl leol
Welsh Government

Ynni glân yn cefnogi addysg a gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru

  • Mwy na £500,000 i ddau sefydliad yng ngogledd Cymru drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn helpu Coleg Cambria ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i leihau costau ynni a chefnogi gwasanaethau addysg ac iechyd
Welsh Government

O lwyfannau i ailgylchu: buddsoddiad mewn ynni glân ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr

  • Mwy na £1.5 miliwn i bedwar sefydliad ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r pedwar prosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau ym meysydd diwylliant, gwasanaethau cymunedol, busnes ac ailgylchu, gan helpu sefydliadau i leihau costau ynni a buddsoddi yn eu dyfodol
Welsh Government

O leihau biliau cartref i bweru gwyliau: sut mae Ynni Cymru yn sicrhau buddion lleol ledled Cymru

  • Mae Renewable Power Pembrokeshire, Clwb Ynni Lleol Ardal Llanidloes ac Afanti Media o Gaerdydd ymhlith 24 o sefydliadau sy'n rhannu £8.27 miliwn o gyllid Ynni Cymru
  • Bydd y cyllid yn helpu sefydliadau i gynhyrchu a defnyddio mwy o'u hynni glân eu hunain, gan leihau costau a thorri allyriadau carbon
  • Bydd y prosiectau'n helpu i ostwng biliau ynni, cefnogi busnesau lleol a darparu pŵer glanach ar gyfer gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru
Welsh Government

Gorllewin Cymru yn manteisio ar fuddsoddiad mewn ynni glân

  • 2.75 miliwn i saith sefydliad ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar gyfer ynni gwyrdd drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r saith menter ymhlith 24 o brosiectau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn drwy drydydd rownd ariannu’r rhaglen
  • Mae'r buddiolwyr yn cynnwys neuaddau cymunedol, elusennau, busnesau a grwpiau ynni lleol, gan gynnwys Skanda Vale, sy'n gartref i anifeiliaid wedi'u hachub, megis yr eliffantod Asiaidd adnabyddus Valli a Bala.
Welsh Government

Dros £338,000 i gefnogi prosiectau ynni gwyrdd lleol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

  • £338,951 i ddau sefydliad yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn helpu Canolfan Fosg ac Islamaidd Abertawe a Chlwb Golff Pontardawe i leihau costau ynni a pharhau i gefnogi eu cymunedau lleol.
Adam Price MS Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy-2 cropped

Y Gweinidog Menter yn mynd i Boston i gryfhau cysylltiadau masnach Cymru ym maes deallusrwydd artiffisial a thechnoleg

  • Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â buddsoddwyr a busnesau presennol a darpar fuddsoddwyr a busnesau ym meysydd deallusrwydd artiffisial, technoleg a digidol yn ystod yr ymweliad â Boston.

  • Bydd hefyd yn mynd i uwchgynhadledd ryngwladol fawr ar dechnolegau newydd, yn siarad yn Harvard am le Cymru yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial ac yn cyfarfod â'r diaspora Cymreig.
Adam Price MS Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy-2 cropped

Gweinidog Cabinet yn croesawu 480 o swyddi newydd Airbus ym Mrychdyn.

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, wedi croesawu cyhoeddiad heddiw o 480 o swyddi newydd ar safle Airbus ym Mrychdyn.