English icon English

Newyddion

Canfuwyd 253 eitem, yn dangos tudalen 21 o 22

EM - MHSS-2

Fersiwn ddigidol Pàs COVID y GIG ar gael yng Nghymru ar gyfer teithiau brys

Bydd pobl sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn COVID yn gallu gweld eu statws brechu ar y rhyngrwyd o heddiw ymlaen [25ain Mehefin] i gynhyrchu Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol allanol ar frys.

Welsh Government

Y Gweinidog Iechyd yn annog pawb i Ddiogelu Cymru yr haf hwn

Bydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn atgoffa pawb i chwarae eu rhan i ddiogelu Cymru yr haf hwn yn ystod cynhadledd i'r wasg y prynhawn yma [21 Mehefin].

Eluned Morgan (P)#6

'Rhaid inni fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cymorth i’r rheini sy’n gwella o effeithiau COVID-19 – dyna adduned y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wrth i’r rhaglen gymorth Adferiad newydd gael ei lansio

‘Mae buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglen gymorth benodedig ar gyfer y rheini sy’n gwella o effeithiau hirdymor COVID-19 yn hanfodol wrth inni ddechrau ailgodi ar ôl y pandemig’, dyna addewid y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ar ôl cwrdd â chlinigwyr a chleifion.

Eluned Morgan (P)#6

Cynnig brechlyn i bob oedolyn yng Nghymru yn gynt na’r disgwyl

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi diolch i dimau brechu gwych Cymru, wrth iddi gadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechiad erbyn dydd Llun (14 Mehefin). Mae hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl. 

WCP DSC09209-2

"Cefnogi Cymru drwy gael gwyliau gartref eleni" – Y Gweinidog Iechyd

Wrth i Gymru gychwyn eu hymgyrch Ewro 2020 heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog pobl i fynd ar wyliau gartref yr haf hwn.

EM - MHSS-2

Canolfannau Covid yng Ngogledd Cymru yn cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi’u taro waethaf

Mae canolfannau sy'n cynnig cymorth cyfannol i bobl y mae angen iddynt hunanynysu ac i'r rhai sy'n cael eu taro waethaf gan y pandemig yn cael eu cyflwyno mewn cynllun peilot ar draws pum ardal yng Ngogledd Cymru.

mhorwood Covid 19 Oxford-Astrazeneca Vaccine 040121 31

“Gadael neb ar ôl" wrth i raglen frechu ragorol Cymru barhau

Bydd pawb dros 18 oed yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn dechrau’r wythnos nesaf, wrth i'r Prif Weinidog Mark Drakeford ganmol y bobl y tu ôl i raglen frechu Cymru sy'n arwain y byd.

Welsh Government

Portiwgal yn symud i oren ar restr goleuadau traffig teithio rhyngwladol

Bydd angen i deithwyr sy'n dychwelyd i Gymru o Bortiwgal hunanynysu ar ôl dod yn ôl wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd y gyrchfan gwyliau boblogaidd yn symud i'r rhestr oren o 04:00 awr dydd Mawrth 8 Mehefin.

Welsh Government

Buddsoddi mwy na £25m mewn offer diagnostig ar gyfer GIG Cymru

Mae mwy na £25m yn cael ei fuddsoddi mewn offer delweddu newydd i sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru fynediad at y dechnoleg ddiweddaraf i helpu i roi diagnosis a thriniaeth gynharach ar gyfer canser a chlefydau eraill.

EM - MHSS-2

Parhau i olrhain cysylltiadau yng Nghymru hyd fis Mawrth 2022

Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu llwyddiannus Cymru, sydd wedi helpu i leihau lledaeniad coronafeirws yn parhau tan y flwyddyn nesaf, diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.