Newyddion

Canfuwyd 15 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Welsh Government

£121 miliwn ar gyfer hwb newydd GIG Cymru i leihau amseroedd aros

Bydd hwb newydd o’r radd flaenaf, sydd â’r nod o leihau amseroedd aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a gwella mynediad at driniaethau, yn elwa ar gymorth ariannol gwerth £121 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Welsh Government

Ymateb y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ddata diweddaraf y GIG o ran Perfformiad a Gweithgarwch: Gorffennaf ac Awst 2026

Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata diweddaraf GIG Cymru o ran perfformiad a gweithgarwch.

Welsh Government

Cleifion i elwa ar gael diagnosis a thriniaeth yn gyflymach o dan ddiwygiadau i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru

  • Dull sy’n cael ei arwain gan glinigwyr o glirio’r arosiadau hiraf a dod â’r rhestr aros gyffredinol i lawr i lefelau cyn y pandemig cyn diwedd tymor y Senedd hon.
  • Rhagor o gapasiti llawfeddygol sy’n targedu’r arbenigeddau lle mae’r arosiadau hiraf.
  • Gwelliannau i’r ffordd y mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio a’r ffordd y mae apwyntiadau dilynol yn cael eu rheoli, gan ryddhau degau o filoedd o leoedd.
Welsh Government

Ymateb y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ddata diweddaraf y GIG o ran Perfformiad a Gweithgarwch: Mehefin a Gorffennaf 2026

Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata diweddaraf GIG Cymru o ran perfformiad a gweithgarwch.

Chief Allied Health Professions Officer - Gareth Evans-2

Croesawu Prif Swyddog Proffesiynau Perthynol i Iechyd newydd

  • Mae Gareth Evans, sy'n bodiatrydd ac yn arweinydd iechyd a gofal profiadol, wedi ymgymryd â rôl Prif Swyddog Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru.
  • Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhan greiddiol o agenda iechyd ataliol Llywodraeth Cymru ac yn allweddol i ddarparu gofal yn nes at y cartref.
  • Mae'r penodiad hwn yn cryfhau arweinyddiaeth a chyngor proffesiynol ar lefel genedlaethol i'r gweithwyr hyn, wrth i Gymru symud tuag at fodelau gofal yn y gymuned.
Welsh Government

Ymateb y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ddata Perfformiad a Gweithgaredd diweddaraf y GIG: Mai a Mehefin 2026

Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata perfformiad a gweithgaredd diweddaraf GIG Cymru.

Welsh Government

Strategaeth ddeng mlynedd nodedig i drawsnewid gofal canser yng Nghymru

  • Mae Strategaeth Ganser Genedlaethol 10 mlynedd yn cael ei datblygu i drawsnewid y ffordd o atal y clefyd, rhoi diagnosis ohono a’i drin yng Nghymru.
  • Bydd y strategaeth yn cael ei llywio gan alwad ffurfiol am dystiolaeth gan gleifion, gofalwyr, clinigwyr, elusennau a'r cyhoedd ynghyd â phartneriaid rhyngwladol.
  • Bydd yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Canser y Byd ar 4 Chwefror 2027.
Welsh Government

Cymru’n cymryd camau nawr i baratoi'r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cynnar i baratoi'r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf, gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol.
  • Gofynnir i GIG Cymru gynllunio ar gyfer y gaeaf yn gynharach eleni a symud i ddull cynllunio gydol y flwyddyn gan ystyried yr holl ofynion tymhorol.
  • Bydd y gwaith o ehangu'r brechlyn RSV i'r rhai dros 65 oed sy’n wynebu risg clinigol yn dechrau ym mis Medi.
Welsh Government

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i drawsnewid bwrdd iechyd y Gogledd

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau uniongyrchol i ysgogi gwelliannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn hytrach na'r bwrdd iechyd yn arwain y gwelliannau ei hun.
  • Bydd panel annibynnol yn adolygu meysydd, gan gynnwys diogelwch cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant, ac yn adrodd yn ôl erbyn diwedd mis Hydref.
  • Dywed y Gweinidog Iechyd fod hwn yn ddatganiad clir o ymrwymiad i gefnogi gwelliannau ac i sicrhau bod pobl y Gogledd yn cael y gofal diogel ac amserol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu.
 Cabinet Minister for Health and Care - Mabon ap Gwynfor

Grŵp arbenigol i gynllunio hybiau llawfeddygol newydd i leihau amseroedd aros y GIG

  • Bydd grŵp newydd o lawfeddygon, nyrsys a rheolwyr y GIG yn bwrw ati i gynllunio hyd at ddeg hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru
  • Bydd yr hybiau yn cynyddu’r capasiti llawfeddygol a diagnostig ac yn diogelu gofal wedi’i gynllunio rhag pwysau argyfwng.
  • Disgwylir i’r cynllun cyflawni gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.
 Cabinet Minister for Health and Care - Mabon ap Gwynfor cropped

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros am driniaeth y GIG

  • £100m i helpu i leihau rhestrau aros ac amseroedd aros y GIG. £25m ar gyfer canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd. £20m ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.
  • Mae ffigurau newydd yn dangos bod y rhestrau aros a'r amseroedd aros wedi cynyddu ym mis Ebrill, cyn i Lywodraeth newydd Cymru gael ei rhoi ar waith. Dywed y Gweinidog Iechyd bod cynlluniau i gyflawni gostyngiadau parhaol.
  • Mae angen newid y ffordd mae'r GIG yn gweithio - gwneud yn siŵr bod cleifion yn symud drwy'r system yn fwy llyfn, o'u hatgyfeiriad cyntaf yr holl ffordd i'w triniaeth.
Welsh Government

Llywodraeth newydd Cymru yn cyhoeddi cyllid ychwanegol gwerth £145m ar gyfer GIG Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyllid ychwanegol gwerth £145m yn cael ei fuddsoddi yn GIG Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon.