Newyddion
Canfuwyd 82 eitem, yn dangos tudalen 4 o 7
Taith twf hynod lwyddiannus i gwmni creadigol
Mae cwmni creadigol yn mwynhau taith twf hynod lwyddiannus gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.
Cymorth i ddiogelu swyddi gyda gwneuthurwr rhannau ceir
Mae cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn mynd i helpu i greu a diogelu mwy na 60 o swyddi gyda gwneuthurwr rhannau ceir yn Nhorfaen, gan ei helpu i sicrhau busnes newydd gwerthfawr gyda Jaguar Land Rover (JLR).
Gwario arian ar waith uwchraddio toiledau ar draws y Canolbarth
Bydd cyfleusterau cyhoeddus ar lwybrau teithio allweddol ledled Powys yn elwa ar waith uwchraddio sylweddol diolch i bron i £500,000 o gyllid.
Y genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau ffrwd lanw i'w datblygu yng Nghymru
Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn anelu at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau llif lanw, gyda'r potensial i drawsnewid y diwydiant ynni'r llanw.
Digwyddiadau â chymorth yn cyflawni enillion enfawr ar fuddsoddiad
Cynhyrchodd digwyddiadau celf, diwylliant a chwaraeon a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru fwy na £40m i'r economi yn 2024.
Buddsoddiad o £5 miliwn mewn prosiectau twristiaeth i wella profiad ymwelwyr
Bydd prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn cael cyfran o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad er mwyn sicrhau bod y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr.
Monitor diabetes cyntaf yn y byd y gellir ei wisgo yn cael ei ddatblygu gyda hwb ariannol gan yr UE
Mae busnes o Gymru yn datblygu ffordd o reoli diabetes a allai fod yn chwyldroadol ar ôl derbyn cyllid gan raglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd.
£10m i gefnogi prosiectau ynni dan arweiniad y gymuned ledled Cymru
Mae cyllid newydd bellach ar gael i gefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES), gan helpu i sicrhau bod manteision cynhyrchu ynni yn cael eu cadw a'u teimlo mewn cymunedau lleol.
Cronfa newydd gwerth £1m i hybu twristiaeth Cymru ym mhob tywydd
Bydd cronfa newydd gwerth £1 miliwn yn helpu i sicrhau bod atyniadau twristiaeth ledled Cymru yn gallu croesawu ymwelwyr beth bynnag fo'r tywydd.
Cymru a Japan yn cryfhau eu cysylltiadau mewn sioe yn Tokyo
Mae cysylltiadau economaidd Cymru â Japan wedi cael eu cryfhau mewn sioe i fuddsoddwyr yn Tokyo.
Man problemus o ran fandaliaeth wedi'i drawsnewid yn barc busnes modern
Mae safle warws yng ngogledd Cymru a aeth yn adfail ac a ddaeth yn hafan ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael ei drawsnewid yn barc busnes modern gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Cynnydd mawr mewn cynhyrchiant o ganlyniad i raglen gymorth Toyota
Mae rhaglen sy'n helpu sefydliadau ledled Cymru i gyflawni gwelliannau mewn cynhyrchiant a lleihau gwastraff ar y cyd â Toyota wedi gweld nifer o gwmnïau mawr yn adrodd am arbedion o £1m yr un.