Newyddion
Canfuwyd 58 eitem, yn dangos tudalen 3 o 5

Mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio premiwm y dreth gyngor a meini prawf gosod
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd rhagor o gategorïau eiddo yn cael eu heithrio rhag talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan reoli effaith rheolau treth lleol newydd i wahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety hunanddarpar.

Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn dweud bod swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn y fantol o ganlyniad i’r cyfnod newydd o gyni
Heddiw, bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn rhybuddio bod Cymru yn wynebu cyfnod newydd o doriadau cyni dinistriol, a hynny oherwydd bod Llywodraeth y DU yn camreoli’r economi.

Datganiad Cyllidol yn "gambl enfawr ar iechyd yr economi"
Gofynnwyd am gyfarfod brys gyda'r Canghellor

Rheolau treth newydd i helpu prynwyr tai
Ni fydd pobl sy'n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £225,000 yn talu unrhyw dreth, o dan fesurau newydd sydd wedi’u cyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid.

Trafodaethau cyhoeddus am ardoll ymwelwyr yn dechrau
Ymwelodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru Cefin Campbell â safleoedd twristiaeth ym Mhortmeirion a Phenygroes heddiw i drafod cynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Llywodraeth y DU yn ‘plannu annhegwch’ yn ei datganiad ariannol diweddaraf
Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, wedi dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ‘plannu annhegwch’ drwy fethu â darparu digon o gymorth i gartrefi incwm is yn ystod yr argyfwng costau byw.

Dweud eich dweud am ardoll ymwelwyr i Gymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Llythyr y Gweinidogion Cyllid Datganoledig ar y Cyd at Ganghellor y Trysorlys Nadhim Zahawi AS
Mae Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, ar y cyd gyda Kate Forbes MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Economi, yn Llywodraeth yr Alban a Conor Murphy MLA, y Gweinidog Cyllid yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon, wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys Nadhim Zahawi AS.

Treth gyngor decach i Gymru
Mae cynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru yn anelu at wneud y dreth gyngor yng Nghymru yn decach.

Esblygiad dull cyllidebu ar sail rhyw yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei dull cyllidebu ar sail rhyw, gyda chynlluniau peilot ac ymchwil yn helpu i greu Cymru sy’n rhoi pwyslais ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Costau byw ar frig yr agenda i’r Gweinidogion Cyllid
Daeth Gweinidogion Cyllid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd yng Nghaerdydd heddiw, a’r prif bwnc trafod oedd sut i gefnogi pobl a busnesau wrth i filiau barhau i godi.