Newyddion
Canfuwyd 58 eitem, yn dangos tudalen 4 o 5

Contract offerynnau â gwerth cymdeithasol ychwanegol yn newyddion da yn ôl y Gweinidog Cyllid
Ymwelodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans â gweithdy ym Merthyr heddiw i weld trombonau plastig carbon niwtral yn cael eu cydosod ar gyfer plant 7 oed Cymru.

Taliad costau byw gwerth £150 yn cael ei roi i 330,000 o aelwydydd
Mae mwy na £50m wedi’i roi i aelwydydd yng Nghymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Mae taliad costau byw gwerth £150 eisoes wedi’i roi i 332,710 o aelwydydd.

£380m i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yng Nghymru
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn nodi y byddwn yn 2022-2023, yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw. Ac wrth i’r cynnydd mewn Yswiriant Cenedlaethol a’r cap ar bris ynni wthio pobl yn bellach i sefyllfa o galedi, mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans wedi rhoi manylion y pecyn cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae nhw hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy.

Datganiad llwm yn destun siom i bobl sy'n ei chael hi’n anodd cadw deupen llinyn ynghyd
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi dweud bod Datganiad y Gwanwyn yn destun siom i bobl sy'n cael trafferthion gyda chostau byw cynyddol.

Galw am gymorth ar gyfer costau byw yn Natganiad y Gwanwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid defnyddio Datganiad y Gwanwyn sydd ar fin ei gyhoeddi i gymryd camau ystyrlon i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw.

Yr aelwydydd ar yr incwm isaf yng Nghymru i gael y gyfran fwyaf o gyllid yr ymateb i’r argyfwng costau byw
Bydd y rhan fwyaf o gymorth y pecyn cymorth costau byw gwerth £330m yng Nghymru yn mynd i’r aelwydydd ar yr incwm isaf, yn ôl dadansoddiad newydd.

Rheolau treth newydd ar gyfer ail gartrefi
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd i bremiymau’r dreth gyngor ar y lefel uchaf y gellir ei defnyddio ar gyfer ail gartrefi, gan gynnwys rheolau treth lleol newydd ar gyfer llety gwyliau.

Cyllideb Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chryfhau gwasanaethau cyhoeddus
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb tair blynedd i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur a gwella cyfleoedd addysgol.

Mwy na £330m i helpu pobl i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o fesurau ehangach i helpu pobl â’r argyfwng costau byw, gan gynnwys taliad costau byw o £150 i’w dalu cyn gynted â phosibl a £200 ychwanegol i aelwydydd incwm isel drwy’r Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf nesaf.

Cyhoeddi Penodi Aelodau Newydd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Heddiw, mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans wedi cyhoeddi bod Michael Imperato a Frank Cuthbert wedi’u penodi’n aelodau o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Y cam nesaf tuag at ddatblygu treth dwristiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr leol yn dechrau yn hydref 2022.

£8.1bn i gefnogi seilwaith gwyrdd
Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi dweud mai’r "uchelgais cyffredinol" yn Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar ei newydd wedd yw mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.