Newyddion
Canfuwyd 147 eitem, yn dangos tudalen 12 o 13

“Y camau nesaf tuag at lai o reolau COVID” – Prif Weinidog Cymru
Mae Cymru am gymryd y camau nesaf tuag at ddyfodol sydd â llai o gyfyngiadau COVID cyfreithiol, a heddiw mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi amlinellu cynllun tymor hirach ar gyfer yr haf.

Gorchuddion wyneb i barhau i helpu i ddiogelu Cymru
Mae'r Gweinidogion wedi cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddiogelu pawb rhag y coronafeirws yng Nghymru.

Prif Weinidog Cymru yn cyflwyno syniadau ar gyfer cryfhau’r Undeb “bregus”
Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru yn cyflwyno’r cynllun 20 pwynt ar ei newydd wedd ar gyfer gwneud y Deyrnas Unedig yn gryfach ac i sicrhau ei bod yn gweithio’n well i bawb.

Newidiadau i’r rheolau ar stop am bedair wythnos wrth i amrywiolyn delta ledaenu
Ddydd Gwener (18 Mehefin), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd.

Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb
Heddiw (dydd Mawrth 15 Mehefin), bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach wrth iddo lansio'r Rhaglen Lywodraethu.

Y Prif Weinidog yn lansio cynllun pum mlynedd ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach
Heddiw (dydd Mawrth 15 Mehefin), bydd y Prif Weinidog yn lansio ei Raglen Lywodraethu – cynllun uchelgeisiol i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb.

Y Prif Weinidog yn nodi newid pwysig yn y rheolau rhoi gwaed
Ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd (14 Mehefin), fe wnaeth y Prif Weinidog roi gwaed i nodi’r newid yn y rheolau i ganiatáu i fwy o bobl fod yn gymwys i fod yn rhoddwyr gwaed hefyd.

“Gadael neb ar ôl" wrth i raglen frechu ragorol Cymru barhau
Bydd pawb dros 18 oed yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn dechrau’r wythnos nesaf, wrth i'r Prif Weinidog Mark Drakeford ganmol y bobl y tu ôl i raglen frechu Cymru sy'n arwain y byd.

Y Prif Weinidog yn cadarnhau camau i symud yn raddol i lefel rhybudd 1
Heddiw (dydd Gwener 4 Mehefin), mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored ac y gellir cynnal gweithgareddau awyr agored mawr o ddydd Llun ymlaen, wrth i Gymru symud i lefel rhybudd 1.

Portiwgal yn symud i oren ar restr goleuadau traffig teithio rhyngwladol
Bydd angen i deithwyr sy'n dychwelyd i Gymru o Bortiwgal hunanynysu ar ôl dod yn ôl wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd y gyrchfan gwyliau boblogaidd yn symud i'r rhestr oren o 04:00 awr dydd Mawrth 8 Mehefin.

Aelodau’r Wal Goch yn cael eu hannog i gefnogi Cymru o gartref yr haf hwn
Y lle gorau i gefnogi a gwylio Cymru yn chwarae pêl-droed yr haf hwn fydd o’ch soffa, eich tafarn leol neu o’ch gardd.

Gall Gogledd Cymru gael dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach yn ôl Prif Weinidog Cymru
Gall Gogledd Cymru edrych ymlaen at ddyfodol cryfach, gwyrddach a thecach, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw wrth iddo ymweld â'r rhanbarth.