Newyddion
Canfuwyd 147 eitem, yn dangos tudalen 11 o 13

Cynllun newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y gaeaf “heriol” sydd o’n blaenau
Heddiw (dydd Gwener 8 Hydref), bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynlluniau newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y misoedd anodd sydd o’n blaenau dros yr hydref a’r gaeaf.

Cyhoeddi Pas Covid ar gyfer digwyddiadau a chlybiau nos
Bydd rhaid i bobl ddangos Pàs COVID y GIG i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen, cyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw.

Datganiad a gytunwyd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru:
Wrth i Gymru baratoi am ddyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws; wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i ganlyniadau parhaus ymadael â’r Undeb Ewropeaidd; a’r bygythiad i ddatganoli mae’n bwysicach nac erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobl Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin.

Gwobr Dewi Sant yn troi'n wyrdd wrth i wobr newydd gael ei chyhoeddi
Heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi gwobr newydd wrth iddo annog pobl i gyflwyno eu henwebiadau cyn y dyddiad cau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.

Cyhoeddi Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru
Cyhoeddwyd mai Dr Andrew Goodall CBE fydd Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru.

Dim newid i reolau Covid yng Nghymru
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pobl yng Nghymru i gael eu brechu a pharhau i gymryd y camau, sy’n gyfarwydd iawn i ni bellach, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Anfon £7.2m o gyfarpar diogelu personol o Gymru i Namibia
Mae Cymru yn darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i Namibia i atgyfnerthu’r frwydr fyd-eang yn erbyn COVID-19.

100 Swyddog Cymorth Cymunedol newydd i’r Heddlu yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i ddarparu 100 Swyddog Cymorth Cymunedol arall i’r Heddlu er mwyn mynd i’r afael â throseddau a chefnogi cymunedau

Cymru’n symud i lefel rhybudd sero
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn annog pawb i barhau i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws wrth iddo gadarnhau y bydd Cymru’n symud i’r lefel rhybudd sero newydd ddydd Sadwrn [7 Awst].

Newid y rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn
Cadarnhaodd y Prif Weinidog heddiw na fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.

Prif Weinidog Cymru yn ymweld â menter gymdeithasol Bethesda sy'n elwa ar fwy £200,000
Bydd Partneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol ym Methesda, Gwynedd, yn elwa ar fwy na £200,000 o raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i drawsnewid hen ysgol yn ganolfan i'r gymuned.

Safle Treftadaeth newydd y Byd yng Nghymru
Mae Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru wedi'i hychwanegu at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, sy'n golygu mai dyma’r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.