Newyddion
Canfuwyd 129 eitem, yn dangos tudalen 11 o 11
Llywodraeth Cymru: £250miliwn tuag at 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyblu ei gwariant ar dai cymdeithasol i'w rhentu, gan ymrwymo £250miliwn cychwynnol yn 2021/22 ar gyfer 20,000 o gartrefi carbon isel newydd.
Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau diogelwch adeiladau
Heddiw (dydd Mercher, 14 Gorffennaf), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ariannu arolygon diogelwch tân ar gyfer adeiladau aml-feddiannaeth sydd dros 11 metr, er mwyn sicrhau diogelwch o'r safon uchaf i breswylwyr.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dull tair elfen o roi sylw i’r “argyfwng ail gartrefi”
Yn y Senedd yn hwyrach heddiw, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James yn amlinellu “dull tair elfen uchelgeisiol” i roi sylw i effaith ail gartrefi ar gymunedau Cymru.
“Mae Lefelau Gwent yn aruthrol o bwysig i Dde Cymru a’r byd – byddwn yn gweithio i’w gwarchod” – Gweinidog Newid Hinsawdd
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn ystod ei hymweliad â Lefelau Gwent heddiw ei bod hi’n benderfynol o warchod y safle hwn o bwys rhyngwladol,
Cynllun grant newydd gwerth £10m i helpu pobl sy’n cael trafferth talu eu rhent yn ystod y pandemig
Bydd cynllun grant newydd gwerth £10m yn cael ei gyflwyno’r mis hwn i helpu pobl mewn llety rhent preifat sy’n cael trafferth talu eu rhent yn sgil y pandemig.
Rhaid i ni barhau i ddilyn y wyddoniaeth, meddai’r Gweinidog newydd ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd
Mae'r Gweinidog newydd ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud y bydd gan Raglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru ffocws canolog ar yr amgylchedd gan rybuddio "bydd angen i ni i gyd wneud llawer mwy i leihau ein hallyriadau carbon yn ystod y 10 mlynedd nesaf nag ydym wedi’i wneud yn ystod y 30 mlynedd diwethaf".
DYDDIAD I’R DYDDIADUR - Ddim i'w gyhoeddi, ei ddarlledu na'i roi ar gyfryngau cymdeithasol | Rhaid i ni barhau i ddilyn y wyddoniaeth, meddai’r Gweinidog newydd ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd
Pryd: Dydd Iau, Mehefin 10 - 3pm i 4.30pm
Ble: Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien.
Gwahoddir gohebwyr a/neu weithredwyr camerâu i fod yn bresennol.
Bydd unrhyw gyfweliadau dan embargo llym tan 00.01 ddydd Sul, Mehefin 13.
Os hoffech fod yn bresennol, cysylltwch â Jamie Robins ar 07814 298412 neu e-bostiwch jamie.robins@gov.wales.
Datgelu cyfraith newydd i roi mwy o sicrwydd meddiannaeth i bobl sy'n rhentu cartref yng Nghymru
O dan gyfraith newydd a ddatgelir heddiw gan Lywodraeth Cymru, rhoddir diogelwch o 12 mis i bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartref rhag cael eu troi allan ar ddechrau tenantiaeth newydd cyn belled nad ydynt wedi torri telerau eu contract.