Newyddion
Canfuwyd 129 eitem, yn dangos tudalen 7 o 11
Asynnod, dolffiniaid a thormeini’n cael help llaw drwy £15 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer byd natur
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi bod bron £15 miliwn ar gael i berchenogion a rheolwyr tir sydd am wella bioamrywiaeth er mwyn helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Sut mae adfer corsydd Cymru yn gwella diogelwch o ran dŵr a thanau gwyllt yn ystod tywydd sych
Heddiw, mae adroddiad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at sut y llwyddwyd i adfer mawndir diraddiedig Cymru yn gynt nag erioed o’r blaen yn ystod 2021/22 – gan hyd yn oed ragori ar y disgwyliadau.
£1.85 miliwn i fynd i’r afael â staeniau gludiog gwm cnoi
Mae cynllun newydd gwerth £1.85 miliwn yn helpu pum awdurdod lleol yng Nghymru i fynd i'r afael â staeniau gwm cnoi.
£65m i sicrhau fod gan bawb 'le i’w alw’n gartref'
Heddiw (dydd Gwener, 29 Gorffennaf), mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi £65m er mwyn helpu pobl i symud ymlaen o lety dros dro i lety y gallant ei alw’n gartref.
Etifeddiaeth sy'n goroesi: Gallai pyllau glo Cymru oedd yn allweddol i'r chwyldro diwydiannol wresogi cartrefi'r dyfodol
Bydd prosiect gwerth £450,000 yn ystyried a oes gan ddŵr o byllau glo segur y potensial i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflenwi anghenion ynni Cymru am flynyddoedd i ddod.
Y wlad gyntaf yn y DU – Senedd Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth 20mya
Heddiw, mae'r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya.
Cynllun cymorth newydd yn cael ei lansio i helpu'r rhai mae problemau diogelwch tân yn effeithio arnynt
Mae cynllun newydd i helpu'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i broblemau diogelwch tân yn cael ei lansio heddiw.
Cynllun cymorth newydd yn cael ei lansio i helpu'r rhai mae problemau diogelwch tân yn effeithio arnynt
Mae cynllun newydd i helpu'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i broblemau diogelwch tân yn cael ei lansio heddiw.
Y Prif Swyddog Meddygol yn rhybuddio bod newid hinsawdd yn peri ‘risg ddifrifol i iechyd’ y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru
Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi rhybuddio yn ei adroddiad blynyddol bod newid hinsawdd yn peri ‘risg ddifrifol i iechyd’ y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James
A hithau’n bumed pen-blwydd tân trasig Tŵr Grenfell rydym yn cofio'r 72 o bobl a fu farw’n rhy gynnar.
Ystadegau newydd: Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer targedau hinsawdd, ond newidiadau mawr i ddod mewn ‘degawd o weithredu’
Dyna oedd geiriau’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wrth i ddata a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 7) ddangos bod Cymru’n disgwyl cyrraedd ei tharged ar gyfer 2020 i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a’i bod yn symud i’r cyfeiriad cywir i osgoi cynhesu byd-eang peryglus.
Papur wal sy’n cynhesu’r cartref ymhlith y prosiectau arloesol sy’n cael eu treialu yng Nghymru i daclo’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng costau byw
Mae papur wal yn cael ei ddefnyddio i gynhesu datblygiad tai cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o dreial sy’n chwilio am ffyrdd fforddiadwy o gadw trigolion yn gynnes heb ddefnyddio rheiddiaduron na phympiau gwres.