Newyddion
Canfuwyd 170 eitem, yn dangos tudalen 13 o 15

Y Gweinidog Materion Gwledig yn nodi amserlen ar gyfer cymorth i ffermydd yn y dyfodol
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi amlinellu'r camau nesaf i gyflwyno system newydd o gymorth i ffermydd a fydd yn gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.

Cig Oen Mynyddoedd Cambria yn derbyn Statws Dynodiad Daearyddol y DU
Cig Oen Mynyddoedd Cambria yw'r ail gynnyrch Cymreig newydd i ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU (GI y DU), yn dilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a enillodd y wobr fis diwethaf.

Cyllid sylweddol ar gael wrth i gynlluniau amaethyddol allweddol gael eu hestyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu bod mwy na £66 miliwn ar gael er mwyn parhau i sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol i Gymru, sy'n rhan allweddol o fanteisio i’r eithaf ar rym amddiffynnol natur drwy ffermio.

Rheolau cryfach i ddiogelu lles Cŵn a Chathod Bach yn dod i rym
Mae rheolau newydd sy’n amddiffyn cŵn a chathod bach ac sy’n rhoi gwarant i’r prynwr bod yr anifeiliaid wedi’u bridio ar y safle y maen nhw’n cael eu gwerthu ynddo, yn dod i rym heddiw (Gwener, 10 Medi).

Gweledigaeth newydd i helpu i gynyddu tyfu bwyd arloesol yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gweledigaeth newydd i cynhyrchu mwy o fwyd uwch-dechnoleg yng Nghymru sydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd.

Cyfleusterau newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hanfodol ar gyfer cynnal ymchwil o’r radd flaenaf
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, newydd ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i weld y cyfleusterau newydd sbon a fydd yn allweddol i hyrwyddo a diogelu iechyd anifeiliaid a phobl.

Cyfnod datgan diddordeb yn y Grant Busnes i Ffermydd gwerth £2 miliwn yn agor ym mis Medi
Bydd cyfnod newydd ar gyfer datgan diddordeb yn y Grant Busnes i Ffermydd yn agor ar 1 Medi, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig heddiw [dydd Iau 19 Awst] cyn ymweld â Sioe Sir Benfro.

Cynllun mawr i wella cydnerthedd a diogelwch ar yr A55 yn gwneud cynnydd da
Mae cynllun ar yr A55 gwerth £30 miliwn i wella diogelwch, amddiffyn rhag llifogydd yn well a darparu llwybr teithio llesol newydd yn gwneud cynnydd da, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru ar ôl ymweld â’r safle.

Canolfan Technoleg Bwyd Môn yn allweddol i greu cannoedd o swyddi newydd
Gwnaeth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, ymweld â’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni yn ddiweddar i glywed sut mae eu gwaith wedi helpu i greu cannoedd o swyddi newydd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Bydd cynhyrchu Ynni Carbon Isel yn sector allweddol i Ogledd Cymru
Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, heddiw y bydd cynhyrchu ynni carbon isel yn sector allweddol i economi Gogledd Cymru gan fod llawer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill.

Y cyntaf yn y DU - Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn sicrhau diogelwch rhyngwladol
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, wedi llongyfarch Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr ar fod y cynnyrch newydd cyntaf i ennill Statws Dynodiad Daearyddol y DU, y wobr uchel ei bri, a fydd yn rhoi diogelwch rhyngwladol i'r cynnyrch Cymreig rhagorol.

Cynllun manwerthu newydd i helpu busnesau i efelychu llwyddiant Authentic Curries a World Foods
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, wedi nodi mai nod Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod newydd Llywodraeth Cymru yw helpu mwy o fusnesau i efelychu llwyddiant cwmnïau fel Authentic Curries a World Foods wrth sicrhau bod eu cynnyrch ar silffoedd manwerthwyr mawr.