Newyddion
Canfuwyd 37 eitem, yn dangos tudalen 3 o 4
Dysgu wrth i chi ennill: hyrwyddo prentisiaethau cyn y diwrnod canlyniadau.
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn cynnig cyfleoedd prentisiaeth o ansawdd uchel ledled Cymru.
Gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys hanesyddol Sant Silyn bron wedi dod i ben
Mae gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys Sant Silyn yn Wrecsam bron wedi dod i ben, gan sicrhau dyfodol yr eglwys hanesyddol am flynyddoedd lawer i ddod.
Unedau busnes newydd yn Sir Gaerfyrddin
Bydd unedau busnes y mae angen mawr amdanynt yn cael eu hadeiladu yn Sir Gaerfyrddin i safonau Sero Net, mewn prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru.
Datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd yn bwrw ati gyda phrosiectau cyntaf
Heddiw, mae datblygwr ynni adnewyddadwy Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd, Trydan Gwyrdd Cymru, wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer tair fferm wynt newydd sydd â'r potensial i gynhyrchu hyd at 400 MW o drydan glân – digon i bweru anghenion trydan cyfartalog blynyddol 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Mae hynny tua chwarter y cartrefi yng Nghymru.
Cymuned yn dathlu buddsoddiad celfyddydol sylweddol i Gymru
Ymunodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â’r actor o Hollywood Rhys Ifans a grwpiau cymunedol o bob rhan o'r Gogledd y penwythnos diwethaf i ddathlu ailddatblygu Theatr Clwyd, theatr gynhyrchu fwyaf Cymru.
Iwerddon a Chymru i lofnodi cytundeb cydweithredu newydd tan 2030
Bydd Fforwm Iwerddon-Cymru'n cytuno heddiw i ddyfnhau'r cydweithrediad rhwng Iwerddon a Chymru dros y pum mlynedd nesaf trwy lofnodi Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2030.
Cyllid sgiliau i fynd â phobl ifanc greadigol i'r lefel nesaf
Mae'r bobl ifanc gyntaf i raddio o brosiect peilot i wella mynediad llawr gwlad i'r sectorau gemau ac animeiddio wedi sicrhau lleoedd i'w chwennych ar raddau datblygu gemau ynghyd â gwaith yn y diwydiant.
Diwygiadau cynllunio i gyflymu penderfyniadau seilwaith a chreu swyddi
Mae diwygiadau wedi’u datgelu sy'n anelu at sicrhau mai Cymru fydd y wlad gyflymaf yn y DU am benderfynu ar geisiadau cynllunio, creu swyddi newydd a sbarduno twf economaidd.
Miloedd yn fwy o swyddi, diolch i dwf mewn buddsoddiad o dramor yng Nghymru
Cynyddodd buddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru yn sylweddol y llynedd, gan arwain at gynnydd mawr yn nifer y prosiectau a sicrhawyd a’r swyddi a grëwyd, yn ôl ffigurau newydd.
Cefnogi gwynt ar y môr i bweru twf economaidd a chreu swyddi
Nod cynllun gweithredu cynhwysfawr newydd yw gwneud y mwyaf o botensial gwynt ar y môr Cymru a sicrhau manteision economaidd hirdymor.
40,000 o swyddi wedi cael cymorth gwerth £600m yn ystod tymor y llywodraeth hon
Mae buddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru mewn busnesau sy'n dod i gyfanswm o dros £600m wedi creu neu ddiogelu mwy na 40,000 o swyddi ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon.