Newyddion
Canfuwyd 279 eitem, yn dangos tudalen 18 o 24

Diwrnod Perchnogaeth gan Weithwyr: Gweinidog yr Economi yn nodi cynlluniau i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru eisiau dyblu nifer y busnesau yng Nghymru sy'n eiddo i'w gweithwyr, ac mae wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gymorth i weithwyr sy'n prynu er mwyn sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn aros yn nwylo Cymry, meddai Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw i nodi Diwrnod Perchnogaeth gan Weithwyr.

Cymru – y 'Dragon's Den' go iawn: Llywodraeth Cymru i gefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain
- Gweinidog yr Economi yn ymrwymo £5 miliwn i feithrin diwylliant newydd o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.
- Cynllunio rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.

AMRC Cymru yn cynnal prosiect i hybu cynhyrchiant a lleihau allyriadau
Mae prosiect ymchwil a datblygu arloesol i wella cynhyrchiant a pherfformiad amgylcheddol busnesau yn y sectorau awyrofod a bwyd a diod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ym Mrychdyn.

Dirprwyaeth o Japan yn gweld potensial ynni carbon isel yng Ngogledd Cymru
Mae dirprwyaeth o Gymdeithas Ynni Gwynt Japan wedi bod yn ymweld â Gogledd Cymru yr wythnos hon er mwyn gweld rhai o’r datblygiadau cyffrous sy’n mynd rhagddynt yn yr ardal.

Gweledigaeth newydd i sicrhau dyfodol disglair i sector manwerthu Cymru
- Gweledigaeth newydd sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru, y sector manwerthu ac undebau llafur yn cydweithio er mwyn datblygu sector cryf, cynaliadwy, arloesol a llwyddiannus
- Manwerthu yw cyflogwr sector preifat mwyaf Cymru – yn darparu swyddi i fwy na 114,000 o bobl ar draws y wlad
- Mae’r weledigaeth yn gosod uchelgeisiau i sicrhau bod manwerthu yn aros wrth wraidd cymunedau Cymru drwy gynnig gwaith teg a chyfleoedd gyrfa gwirioneddol i bobl
- Mae’n cynnwys mesurau i helpu’r sector oresgyn yr heriau recriwtio a chadw staff a achoswyd gan bandemig Covid a’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â’r effaith ar gostau gweithredu ac arferion defnyddwyr o ganlyniad i’r argyfwng costau byw

Rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl i gael gwaith gyda “chymorth sydd yr un mor unigryw â chi”
- Cynllun newydd gwerth £13.25m y flwyddyn i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl i gael gwaith ledled Cymru
- Bydd ReAct+ hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr o ran cyflog a hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar gyfer staff sydd newydd eu cyflogi
- Mae’r rhaglen yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl i gael gwaith ac aros mewn gwaith
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio rhaglen flaenllaw newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi cymorth personol i bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe
Yn ystod ymweliad, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi gweld sut mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu entrepreneuriaid lleol i ddatblygu llety newydd o ansawdd uchel yn Abertawe a’r Mwmbwls.

Cwmni o’r Barri yn ennill cytundeb i allforio anadlenyddion i’r Ffindir
Mae cwmni o Gymru a gynhyrchodd yr anadlennydd electronig cyntaf yn y byd wedi arwyddo cytundeb i allforio cannoedd o anadlenyddion i Lywodraeth y Ffindir, diolch i gymorth allforio gan Lywodraeth Cymru.

Cadarnhau Cefnogaeth Digwyddiadau Cymru i Wyliau Gottwood a Merthyr Rising
Bydd Gwyliau Gottwood a Merthyr Rising yn cael eu cynnal dros benwythnos 9-12 Mehefin ac rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at groesawu’r torfeydd yn ôl i ddau ben y wlad.

Prifysgolion Cymru yn newid bywydau gyda deallusrwydd artiffisial a gwyddor data
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prifysgolion a deallusrwydd artiffisial yn newid bywydau ac yn helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y maes. Fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae £500,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng 22 o brosiectau arloesol.

Hwb o £2.9m i Y Pethau Pwysig Cymru - y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £2.9m o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru.