Newyddion
Canfuwyd 249 eitem, yn dangos tudalen 16 o 21
Rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl i gael gwaith gyda “chymorth sydd yr un mor unigryw â chi”
- Cynllun newydd gwerth £13.25m y flwyddyn i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl i gael gwaith ledled Cymru
- Bydd ReAct+ hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr o ran cyflog a hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar gyfer staff sydd newydd eu cyflogi
- Mae’r rhaglen yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl i gael gwaith ac aros mewn gwaith
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio rhaglen flaenllaw newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi cymorth personol i bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.
Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe
Yn ystod ymweliad, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi gweld sut mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu entrepreneuriaid lleol i ddatblygu llety newydd o ansawdd uchel yn Abertawe a’r Mwmbwls.
Cwmni o’r Barri yn ennill cytundeb i allforio anadlenyddion i’r Ffindir
Mae cwmni o Gymru a gynhyrchodd yr anadlennydd electronig cyntaf yn y byd wedi arwyddo cytundeb i allforio cannoedd o anadlenyddion i Lywodraeth y Ffindir, diolch i gymorth allforio gan Lywodraeth Cymru.
Cadarnhau Cefnogaeth Digwyddiadau Cymru i Wyliau Gottwood a Merthyr Rising
Bydd Gwyliau Gottwood a Merthyr Rising yn cael eu cynnal dros benwythnos 9-12 Mehefin ac rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at groesawu’r torfeydd yn ôl i ddau ben y wlad.
Prifysgolion Cymru yn newid bywydau gyda deallusrwydd artiffisial a gwyddor data
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prifysgolion a deallusrwydd artiffisial yn newid bywydau ac yn helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y maes. Fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae £500,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng 22 o brosiectau arloesol.
Hwb o £2.9m i Y Pethau Pwysig Cymru - y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £2.9m o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru.
Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gymryd lle rhaglenni a ariennir gan yr UE i gefnogi pobl sydd â rhwystrau cymhleth i ddod o hyd i waith
- Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i gadw eu haddewid i ddisodli cyllid yr UE yn llawn drwy'r Gronfa Ffyniant a Rennir.
- Rhaglen Cymru gyfan wedi ei hehangu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i'w lansio ym mis Ebrill 2023.
- Estynnwyd dau gynllun presennol a ariennir gan yr UE am flwyddyn ychwanegol er mwyn sicrhau pontio llyfn.
Twristiaeth a lletygarwch: sector gwych i weithio ynddo, sy'n helpu i greu profiadau pwysig – Vaughan Gething Gweinidog yr Economi
"Mae twristiaeth a lletygarwch yn sector gwych i weithio ynddo" – dyna neges Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, i nodi dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 (15 – 22 Mai).
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno ynghylch sefydlu Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb mewn perthynas â sefydlu Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cadarnhau.
Pryderon yn cael eu lleisio ynghylch yr effaith ar ffermio o ganlyniad i oedi wrth gyflwyno gwiriadau ar y ffin
Mae’r oedi parhaus wrth gyflwyno gwiriadau ar fewnforion o’r UE yn peri risg i fioddiogelwch ac yn rhoi ffermwyr Cymru o dan anfantais, mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru wedi rhybuddio.
Cynlluniau newydd i helpu ffoaduriaid a phobl o Wcráin i integreiddio yng Nghymru
Bydd Tocyn Croeso yn galluogi ffoaduriaid a phobl o Wcráin i deithio yn rhad ac am ddim ar fysiau a byddant hefyd yn cael mynediad rhad ac am ddim i safleoedd Cadw ar draws Cymru.