Newyddion
Canfuwyd 239 eitem, yn dangos tudalen 12 o 20
Adeiladu Cymru wyrddach: Gwaith yn dechrau ar adeiladu datblygiad cyflogaeth carbon isel arloesol gwerth £12 miliwn yn Sir Gaerfyrddin
Mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu safle cyflogaeth gynaliadwy gwerth £12 miliwn ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn darparu mannau masnachol arloesol a modern er mwyn i fusnesau dyfu yn yr ardal leol, mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi.
Canolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Gofal Iechyd yng Ngwynedd: Siemens Healthineers i uwchraddio'r cyfleuster yn Llanberis a buddsoddi mewn swyddi newydd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru
- Bydd Siemens Healthineers yn lansio canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer technoleg gofal iechyd yn Llanberis, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
- Bydd y ganolfan ragoriaeth yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu.
- Bydd y cyfleuster newydd yn helpu i gyfuno gwaith Siemens Healthineers o gynhyrchu ei dechnoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, yn Llanberis.
- Bydd y buddsoddiad yn diogelu 400 o swyddi ac yn creu bron 100 swydd o ansawdd uchel, gyda chyflog cyfartalog gryn dipyn yn uwch na’r cyfartalog ar gyfer yr ardal.
- Mae'r cyhoeddiad yn dod wrth i Siemens Healthineers ddathlu 30 mlynedd yn Llanberis.
Gweinidog yn edrych ymlaen at ddyfodol diwydiannol disglair i’r safle fydd yn gartref i ganolfan reilffordd fyd-eang newydd
- Gweinidog yr Economi yn cadarnhau caffael tir gan ganiatáu contractwyr i baratoi i adeiladu rheilffordd sero net gyntaf y DU
- Y safle fydd ‘stop un siop’ y DU o ran arloesi ym maes rheilffyrdd
- Disgwylir y bydd cam cyntaf gwaith adeiladu’r cynllun meistr wedi ei gwblhau erbyn canol 2025.
Banc Datblygu Cymru yn cynnig cymhellion Sero Net
Bydd menter newydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau i leihau eu heffaith carbon yn cael ei chyflymu a'i lansio yn y flwyddyn newydd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi.
Biwroau Cyflogaeth a Menter o’r radd flaenaf yn helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer byd gwaith
Mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru ei Biwro Cyflogaeth a Menter ei hun i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith a’u helpu i gael hyd i swydd neu i ddechrau eu busnes eu hunain, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
Cwmnïau o Gymru yn ymweld ag America i hybu cysylltiadau masnach ac allforio
Mae saith o fusnesau o Gymru sydd ag arbenigedd sy’n amrywio o faes peirianneg a gofal cleifion i chwaraeon ar lawr gwlad yn mynd i UDA yr wythnos hon fel rhan o daith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Rhaglen Arfor 2 gwerth £11m i hybu ffyniant economaidd mewn cymunedau Cymraeg
- Rhaglen newydd Arfor 2 wedi'i chynllunio i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.
- Bydd £11m ar gael ar gyfer cymunedau mewn pedair sir sydd â’r lefelau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
- Bydd y cyllid yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys canolbwyntio ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, er mwyn eu galluogi i aros yn eu cymunedau lleol neu ddychwelyd iddynt.
- Bydd y rhaglen yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru (Cymraeg 2050) sy'n anelu at sicrhau bod 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mat gweddïo rhyngweithiol gan gwmni o Gymru yn mynd yn feirol diolch i’w lwyddiant wrth allforio
Mae cwmni o Gasnewydd yng Nghymru, sydd wedi dyfeisio mat gweddïo rhyngweithiol cyntaf y byd, wedi rhoi ei fryd ar ehangu i bedwar ban byd, gyda chymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, ar ôl iddo weld ei gynhyrchion yn mynd yn feirol yn y Dwyrain Canol.
Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA: Gweinidog yr Economi yn datgelu prosiectau Llywodraeth Cymru i fynd â Chymru i'r Byd
"Gyda chynulleidfa fyd eang o bum biliwn o bobl, mae Cwpan y Byd FIFA yn cynnig llwyfan i fynd â Chymru i'r byd."
Gweinidog yr Economi yn ymweld â busnes ym Mlaenau Gwent i ddathlu 25 mlynedd o lwyddiant
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi ymweld â Energizer Auto UK yng Nglyn Ebwy i ddathlu chwarter canrif yn y Cymoedd ac ailddatgan ei bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.