Newyddion
Canfuwyd 326 eitem, yn dangos tudalen 9 o 28
Buddsoddiad o £1bn yn sicrhau dros 300 o swyddi yn y Gogledd
- Bydd cyd-fuddsoddiad mawr yng Nglannau Dyfrdwy yn diogelu 147 o swyddi ac yn creu 220 o swyddi newydd
- Melin Shotton o ganlyniad fydd y cynhyrchydd papur eildro mwyaf yn y DU gan helpu'r DU i fynd tuag at sero net a chreu swyddi yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.
- Mae'r berthynas gryfach rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn hwb i'r economi leol
- Daw'r cyhoeddiad ar drothwy'r uwchgynhadledd fuddsoddi lle daw arweinwyr busnes rhyngwladol ynghyd i hybu twf yr economi.
Buddsoddiad band eang gwerth £12miliwn yn darparu cysylltiadau cyflym
O gartrefi gofal i barciau gwledig, mae rhyngrwyd cyflym yn chwyldroi bywyd ledled Cymru.
Llwyddiant i Gymru ar lwyfan Lyon
Medal arian yn y 'Gemau Olympaidd sgiliau'
Cymru'n gweld y twf uchaf erioed mewn entrepreneuriaeth
Adroddiad GEM Cymru 2023 yn datgelu'r cyfraddau entrepreneuriaeth uchaf erioed.
Cwmni o Gymru sy’n cynhyrchu beiciau i bencampwyr ar y trywydd iawn i ehangu
Yn syth yn ôl pedalau Tom Pidcock a’i fedal aur yng Ngemau Olympaidd Paris, mae seren arall ym myd beicio mynydd Prydain yn newid gêr wrth ddatblygu busnes beicio rhyngwladol yn y Canolbarth.
Gweiddi am lwyddiant Paralympaidd Whisper
Mae Gemau Paralympaidd Paris 2024, sy’n dod i ben heno, wedi eu cyflwyno i filiynau o sgriniau teledu gan gwmni o Gymru, gyda diolch i gefnogaeth gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru.
£10m ar gyfer prosiectau ynni cymunedol i bweru dyfodol gwyrdd Cymru
Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun grant newydd i helpu i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar
Diwrnod y Canlyniadau: 'Ennill cyflog wrth ddysgu yn agor y drws ar fyd newyddi mi' – Jack Sargeant
Bwrw golwg ar gyfleoedd prentisiaeth, hyfforddiant, parhau mewn addysg a chyflogaeth.
O Gymru i'r byd – dathlu llwyddiannau creadigol mawr
Beth sydd gan stori dyner am daith cwpl hoyw i fabwysiadu, gêm saethu zombies, a llu o ddreigiau syfrdanol sy'n anadlu tân yn gyffredin?
Gwirfoddolwyr gŵyl roc Glynebwy yn serennu
Ar ben mynydd yng Nglynebwy, mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer penwythnos agoriadol gŵyl roc Steelhouse.
"Mae gen i lais nawr hefyd" - Pobl ifanc yn dathlu llwyddiant wrth i raglen gyflogaeth gynnig mwy na gwaith iddyn nhw
Gwell siawns o gael swyddi, mwy o foddhad â bywyd a help i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yw rhai o'r manteision y mae dysgwyr ifanc wedi'u profi ers ymuno â Twf Swyddi Cymru+.
'Croeso' i bawb! - 'Croeso!' cynnes Cymreig
Mae Croeso Cymru wedi datgan mai 'Croeso!' fydd thema'r flwyddyn ar gyfer 2025.