Newyddion
Canfuwyd 317 eitem, yn dangos tudalen 17 o 27

Galw am fwy o gyllid ar gyfer cyflogau’r GIG
Llythyr ar y cyd at Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei hannog i gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd.

Codiad cyflog a chontract newydd i ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi cytundeb contract newydd ag ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru, a fydd yn cyflawni’r diwygiad mwyaf sylweddol i’r contract ers 2004.

Lansio cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf i drawsnewid fferylliaeth yng Nghymru
Mae nodau wedi’u diweddaru ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth wedi eu cyhoeddi heddiw, wrth i’r gwaith o drawsnewid gofal fferyllol yng Nghymru barhau.

Cynllun brechu newydd i adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Covid-19 o’r radd flaenaf
Bydd cofnodion brechu digidol a systemau trefnu symlach ymhlith rhai o'r newidiadau sydd wedi eu cynnwys mewn cynllun newydd i gynyddu'r nifer sy'n derbyn brechiadau yng Nghymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hiraf gyda nifer y llwybrau cleifion* sy’n aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth wedi lleihau am y pumed mis yn olynol. Mae hyn yn ostyngiad o 16 y cant ers y brig ym mis Mawrth.

Cleifion yn cael hwb gan ddatblygiadau mewn iechyd cyhyrysgerbydol
Mae dulliau newydd a gwell o reoli cyflyrau Cyhyrysgerbydol megis osteoporosis ac arthritis o fudd i bobl ledled Cymru.

£2 filiwn i wella ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £2m i foderneiddio ardaloedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys y gaeaf hwn.

Cynllun ar gyfer uned iechyd meddwl newydd yn symud gam yn nes
Mae cynlluniau amlinellol i adeiladu uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn gwella ansawdd gofal i oedolion a phobl hŷn wedi cael eu cymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd.

Gweledigaeth newydd ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru a fydd yn helpu pobl i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl a marw ag urddas.

Gostwng oedran sgrinio canser y coluddyn i 55 oed
Bydd profion sgrinio canser y coluddyn ar gael i fwy o bobl yng Nghymru wrth i brofion cartref gael eu hehangu i gynnwys unigolion 55-57 oed.

Cymorth ariannol gydol oes i oroeswyr Thalidomide yng Nghymru
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi heddiw (29 Medi) y rhoddir sicrwydd o gymorth ariannol gydol oes i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan y cyffur Thalidomide yng Nghymru.