Newyddion
Canfuwyd 16 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2
Lansio gwasanaeth coetsys newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin
- Coetsys TaithCymru yn lansio ddydd Sul 25 Hydref
- Bydd 10 gwasanaeth dyddiol yn cysylltu Bangor a Chaerfyrddin – gydag estyniad hwyr y nos yn cysylltu Bangor â chysylltiadau rheilffordd a fferi Caergybi
- Mae'r coetsys newydd sbon yn cynnwys Wi-Fi, seddi mynd yn ôl, aerdymheru, mannau i storio beiciau a chyfleusterau toiledau
Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau y gall rhwydwaith trafnidiaeth Cymru wrthsefyll newid hinsawdd
- Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, wedi amlinellu cynlluniau i wneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn fwy gwydn i newid hinsawdd, mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn heddiw
- Mae camau penodol yn cael eu cymryd ar y rheilffyrdd, bysiau, ffyrdd a phorthladdoedd
- Bydd buddsoddi mewn trafnidiaeth yn y dyfodol yn cael ei lywio gan wersi wedi'u dysgu o'r tywydd eithafol diweddar, gyda'r nod o ddarparu rhwydweithiau sy'n garbon isel ac yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd
Cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai ac ateb sy'n seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd yn cael eu cyhoeddi heddiw
Mae cymeradwyaeth ar gyfer trydedd bont dros y Fenai ac ateb sy'n seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4, ynghyd â rhaglen o fesurau trafnidiaeth eraill, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Tocynnau bws am £1 i bobl ifanc i'w hymestyn tan fis Mawrth 2027
- Mae cynllun tocynnau bws am £1 ar gyfer pobl rhwng 5 a 21 oed wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2027.
- Mae ffigurau newydd yn dangos bod dros 9 miliwn o siwrneiau wedi'u gwneud o dan y cynllun ers ei lansio.
Clybiau rhannu ceir di-allyriadau yn ehangu ledled Cymru
- Ar hyn o bryd mae cynllun rhannu ceir TrydaNi yn gweithredu 13 clwb ceir ledled Cymru, gyda mwy na 500 o aelodau
- Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan £1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru
- Lansiwyd clwb ceir Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2024 ac mae ganddo 99 o aelodau
Dirprwy Weinidog yn cwrdd â'r Arglwydd Burns i drafod gwelliannau trafnidiaeth
- Cyfarfu Mark Hooper, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, â'r Arglwydd Burns i drafod sut mae'r gwaith o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 a seilwaith rheilffyrdd newydd yn ne-ddwyrain Cymru yn mynd rhagddo
- Cytunwyd ar ddatblygu perthynas waith bositif â Llywodraeth y DU, ac fe gyfeiriodd y ddau at y Bil Rheilffyrdd fel cyfle da i wneud cynnydd yn y maes hwn, er mwyn helpu i wella cymunedau ar hyd a lled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
TaithCymru – Gwasanaeth coetsys newydd i drawsnewid teithio rhwng y gogledd a'r de
- Enw'r gwasanaeth coetsys newydd rhwng y gogledd a'r de fydd TaithCymru
- Mae'r gwasanaeth yn dechrau ddydd Sul 25 Hydref rhwng Bangor a Chaerfyrddin
- Cewch brynu tocynnau ymlaen llaw o 10am ddydd Mawrth 6 Hydref, drwy system archebu ar-lein
Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth yn cynnal cyfarfod brys ar Bont y Borth
Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth yn cynnal cyfarfod brys ar Bont y Borth
Cyfleuster depo newydd yng Nghaerdydd yn cyflymu gwaith atgyweirio a gwasanaethu trenau
- Bydd teithwyr ledled De Cymru yn elwa o wasanaethau mwy dibynadwy yn dilyn buddsoddiad o £12m yn depo rheilffyrdd Treganna Caerdydd
- Mae canolfan cynnal a chadw newydd yn caniatáu i beirianwyr wasanaethu ac atgyweirio trenau yn gyflymach, ar y safle, gan leihau yr amser pan na fydd modd defnyddio'r trenau.
- Bydd y cyfleuster yn cynnal a gwasanaethu fflyd o drenau newydd Trafnidiaeth Cymru.
“Rydyn ni eisiau rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi'i gynllunio yng Nghymru, wedi'i ddarparu yng Nghymru, ac sy'n atebol i bobl Cymru” meddai'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper.
- Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am gyllid tecach a llwybr i ddatganoli llawn fel rhan o'i hymrwymiad 100 diwrnod cyntaf.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflymu'r gwelliannau rheilffyrdd yr ymrwymwyd iddynt er mwyn gwella gwasanaethau i deithwyr Cymru.
- Mae camau yn cael eu cymryd gyda Llywodraeth y DU i gryfhau dylanwad Cymru dros benderfyniadau rheilffyrdd.
Bydd coets newydd rhwng gogledd a de Cymru yn torri mwy nag awr oddi ar amseroedd teithio
- Bydd y gwasanaeth coets newydd yn gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus rhwng gogledd a de Cymru ac yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr.
- Bydd y goets rhwng y gogledd a’r de yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd bob dydd, gan gysylltu Bangor â Chaerfyrddin.
- Mae'r gwasanaeth yn cefnogi symud oddi wrth deithio mewn car, gan gefnogi trawsnewidiad Cymru i economi carbon isel.