Newyddion
Canfuwyd 144 eitem, yn dangos tudalen 5 o 12

Gweinidog yn ymweld â Chanolfan Gymorth 2 Sisters
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi ymweld â’r Ganolfan Cymorth Cyflogaeth yn Llangefni, sydd wedi ei sefydlu i helpu a chynghori pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad am 2 Sisters.

£2.5m ychwanegol i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid yng Nghymru
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi fod £2.5m ychwanegol yn cael ei ddarparu i barhau â'r gwaith da o reoli ymwrthedd i wrthfiotigau (AMR) mewn anifeiliaid yng Nghymru.

Cyfleuster prosesu llaeth newydd i Sir Benfro: Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro yn sicrhau swyddi a buddsoddiad newydd ym Mharc Bwyd Sir Benfro
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro wedi gwerthu tir i gwmni o Sir Benfro er mwyn datblygu cyfleuster prosesu llaeth newydd yn y sir, fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd.

Cennin Pedr ar Ffurf Calon yn arwydd o Hoffter o Fwyd a Diod o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi
Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn gallu dangos eu bod wrth eu boddau â bwyd a diod o Gymru drwy rannu ffotograffau o osodiad cennin Pedr ar ffurf calon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Cefnogaeth Cyswllt Ffermio gwerth dros £22 miliwn ar gyfer ffermwyr Cymru
Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn eu cefnogi wrth iddynt baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Cadw cŵn dan reolaeth i ddiogelu ŵyn ac anifeiliaid fferm
Mae perchenogion cŵn yn cael eu hatgoffa i gadw eu hanifeiliaid o dan reolaeth pan mae yna ddefaid ac anifeiliaid fferm o gwmpas.

Twf Trelleborg yn tystio i’r cyfleusterau a’r sgiliau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru
Mae Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, wedi canmol cwmni o Lannau Dyfrdwy sy'n arwain y ffordd ym maes darparu atebion morol, atebion ar y môr ac atebion o ran seilwaith, gan gynnig systemau diogelwch o'r radd flaenaf ar gyfer trosglwyddo olew a nwy o longau cargo i'r lan.

Mwy o ffermydd Cymru yn derbyn arian Glastir ar ddechrau cyfnod talu
Mae mwy na £28.5 miliwn wedi ei dalu i ffermydd Cymru ar ddechrau cyfnod talu Glastir 2022, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Yr holl gynhwysion i helpu busnes yn y Fflint i dyfu
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi agor cyfleuster cynhyrchu newydd yn swyddogol yn y Pudding Compartment yn y Fflint, sydd wedi elwa ar arian gan Lywodraeth Cymru.

Cwmni coffi o Gymru yn sicrhau cytundeb newydd yn yr Unol Daleithiau a Chanada
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi llongyfarch Ferrari's Coffee ym Mhen-y-bont ar ôl i'r cwmni sicrhau cytundeb newydd fydd yn gweld eu cynnyrch ar gael yn yr UDA a Chanada y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddi Prif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru
Dr Richard Irvine sydd wedi’i gyhoeddi yn Brif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru.

Safle Glannau Dyfrdwy ar restr fer Rolls Royce SMR
Mae cynnwys safle'r Gateway yng Nglannau Dyfrdwy ar restr fer o dri safle ar gyfer ffatri Rolls Royce SMR fydd yn cynhyrchu cydrannau allweddol ar gyfer Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR), yn dangos cryfder y sgiliau a'r arbenigedd yng Ngogledd Cymru, medd Gweinidogion.