Newyddion
Canfuwyd 65 eitem, yn dangos tudalen 5 o 6
Diweddariad ar Bont Menai 16/11/2022.
Mae'r rhestr o gwestiynau cyffredin sy'n ymwneud â chau Pont Menai i draffig wedi'i diweddaru.
Ymchwil newydd yn dangos y gallai terfyn cyflymder 20mya arbed £100m i Gymru yn y flwyddyn gyntaf
Gallai terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya mewn cymunedau ledled Cymru arbed £100m trwy leihau marwolaethau ac anafiadau, yn ôl ymchwil newydd.
"Rydym bellach yn teimlo'n fwy diogel wrth gerdded i'r ysgol" yw neges disgyblion ysgol Cil-y-coed i’r Dirprwy Weinidog
Pan ymwelodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters â'u hysgol yn gynharach heddiw roedd plant yn Ysgol Gynradd Durand, yng Nghil-y-coed, yn gyffrous i ddweud wrtho sut mae'r terfyn cyflymder newydd o 20mya yn eu tref wedi rhoi mwy o ryddid iddynt gerdded, beicio neu fynd ar eu sgwteri i'r ysgol.
Cynlluniau yn eu lle ar gyfer effeithiau tywydd posibl ar Bont Menai
Mae cynlluniau yn eu lle i ddelio ag effaith bosibl stormydd y gaeaf ar gerbydau nwyddau trwm sy’n teithio i Ynys Môn ac oddi yno tra bo cyfyngiadau pwysau mewn grym ar Bont Menai.
Saith peth efallai na wyddoch am derfyn cyflymder diofyn 20mya newydd Cymru
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya pan bleidleisiodd y Senedd o blaid hynny ym mis Gorffennaf eleni.
Ailbenodi Dafydd Trystan Davies yn Gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi bod Dr Dafydd Trystan-Davies wedi’i ailbenodi’n Gadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Y wlad gyntaf yn y DU – Senedd Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth 20mya
Heddiw, mae'r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya.
£48m i helpu diwydiant bysiau Cymru i oroesi a ffynnu
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw fod pecyn cymorth gwerth £48m yn cael ei roi i’r diwydiant bysiau yng Nghymru i’w helpu i ymadfer o effeithiau’r pandemig ac i ymateb i’r heriau ariannol sy’n ei wynebu.
Llywodraeth Cymru yn darparu £2.8m i atgyweirio ffordd a ddifrodwyd gan stormydd yn Wrecsam
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2.8 miliwn i Gyngor Wrecsam i wneud gwaith atgyweirio hanfodol i'r B5605 yn Nhrecelyn, ger Wrecsam
Cynlluniau newydd i helpu ffoaduriaid a phobl o Wcráin i integreiddio yng Nghymru
Bydd Tocyn Croeso yn galluogi ffoaduriaid a phobl o Wcráin i deithio yn rhad ac am ddim ar fysiau a byddant hefyd yn cael mynediad rhad ac am ddim i safleoedd Cadw ar draws Cymru.
Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn – Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynlluniau i newid y ffordd rydyn ni'n teithio
“Ers dros 70 mlynedd rydyn ni wedi ei gwneud yn haws teithio mewn car ac yn anoddach teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus – mae'n rhaid i hynny newid.”
Grŵp i adolygu trafnidiaeth yn y Gogledd
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi panel o gomisiynwyr annibynnol a fydd yn argymell sut i adeiladu system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig yn y Gogledd.