Newyddion
Canfuwyd 148 eitem, yn dangos tudalen 9 o 13
Dull gofalus o ddiogelu rhag y coronafeirws i barhau
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi yfory y bydd Cymru'n parhau i lacio’n raddol rhai o fesurau diogelu’r pandemig sy'n weddill.
Datganiad llwm yn destun siom i bobl sy'n ei chael hi’n anodd cadw deupen llinyn ynghyd
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi dweud bod Datganiad y Gwanwyn yn destun siom i bobl sy'n cael trafferthion gyda chostau byw cynyddol.
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r drydedd goedlan goffa
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi safle'r drydedd goedlan goffa yng Nghymru yng Nghwmfelinfach yng Nghaerffili.
Prif Weinidog Cymru yn cwrdd â charfan rygbi Merched Cymru cyn y Chwe Gwlad
Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cwrdd â charfan rygbi Merched Cymru heddiw (Dydd Llun 21ain o Fawrth) cyn i Bencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2022 ddechrau.
Dechrau paru pobl o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin
Bydd Cymru yn gweithredu fel uwch-noddwr ar gyfer cynllun a fydd yn rhoi cyfle i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel geisio lloches yng Nghymru.
Y Prif Weinidog yn trafod Wcráin gyda Phwyllgor Rhanbarthau’r UE
Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn trafod y rhyfel yn Wcráin a chydweithredu ar draws Ewrop, pan fydd y Prif Weinidog yn annerch Pwyllgor Rhanbarthau’r UE.
Cymru yn cynnig teithio am ddim ar drenau i ffoaduriaid Wcráin
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru o heddiw ymlaen.
Y Prif Weinidog yn annog pobl i ddweud eu dweud am Ymchwiliad Covid-19 y DU gyfan
Mae Prif Weinidog Cymru yn annog pobl ym mhob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gylch gorchwyl yr Ymchwiliad Covid-19 ar gyfer y DU gyfan.
Prif Weinidog Cymru yn gwahodd Enillwyr Gwobrau Cenedlaethol i gemau rygbi'r Chwe Gwlad
Bydd enillwyr Gwobrau Dewi Sant yn 2020 a 2021 yn westeion Llywodraeth Cymru ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.
Cynllun Tymor Hir i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws
Yfory (dydd Gwener 4 Mawrth), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi cynllun tymor hwy Cymru i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws.
Prif Weinidog Cymru yn trafod y sefyllfa yn Wcráin tra ym Mrwsel ar gyfer ymweliad Dydd Gŵyl Dewi
Bydd y sefyllfa yn Wcráin ar frig yr agenda wrth i’r Prif Weinidog ymweld â Brwsel Ddydd Mercher ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda diplomyddion a seneddwyr.
Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi cymorth gwerth £4m i Wcráin
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a dyngarol i Wcráin, a fydd yn helpu i gefnogi’r rheini sydd mewn gwir angen.