Newyddion
Canfuwyd 191 eitem, yn dangos tudalen 12 o 16
Prif Weinidog Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru
Bydd y Prif Weinidog yn dathlu 10fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru gydag ymweliad i gwrdd â gwirfoddolwyr a cherddwyr yn Sir Fynwy heddiw.
Ffordd ymlaen ar gyfer diwygio’r Senedd
Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi amlinellu ffordd ymlaen ar gyfer diwygio’r Senedd.
£9.5m ar gyfer Canolfan Arloesi newydd i gefnogi Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiberddiogelwch
Cyhoeddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y bydd Canolfan Arloesi Seiber newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang yn y sector yn weithredol yn hwyrach eleni, diolch i fuddsoddiad o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Cadw’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn parhau.
“Mae popeth ry’n ni’n ei wneud yn helpu i ddiogelu ein gilydd” – Y Prif Weinidog Mark Drakeford
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn bwysig parhau i wneud y pethau syml i ddiogelu iechyd y cyhoedd i reoli lledaeniad y coronafeirws.
Gwobr Dewi Sant yn cael ei dyfarnu i’r Urdd am groesawu pobl sy'n ffoi o'r Wcráin ac Affganistan
Cafodd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog ei dyfarnu i'r sefydliad ieuenctid yn y seremoni heno am bopeth y mae wedi'i gyflawni mewn canrif o wasanaethu pobl ifanc yng Nghymru, am gynnal y Gymraeg yn iaith fyw ac, yn fwyaf diweddar, am fod yn esiampl o Genedl Noddfa drwy gynnig noddfa, cymorth a diogelwch i bobl sy'n ffoi o Affganistan a’r Wcráin.
Y Gweinidog Iechyd yn rhybuddio ynghylch y ‘pwysau eithriadol’ sydd ar y system iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd yng Nghymru
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi rhybuddio bod y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o dan ‘bwysau eithriadol’ ar hyn o bryd oherwydd amrywiaeth o ffactorau.
Dull gofalus o ddiogelu rhag y coronafeirws i barhau
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi yfory y bydd Cymru'n parhau i lacio’n raddol rhai o fesurau diogelu’r pandemig sy'n weddill.
Datganiad llwm yn destun siom i bobl sy'n ei chael hi’n anodd cadw deupen llinyn ynghyd
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi dweud bod Datganiad y Gwanwyn yn destun siom i bobl sy'n cael trafferthion gyda chostau byw cynyddol.
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r drydedd goedlan goffa
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi safle'r drydedd goedlan goffa yng Nghymru yng Nghwmfelinfach yng Nghaerffili.
Prif Weinidog Cymru yn cwrdd â charfan rygbi Merched Cymru cyn y Chwe Gwlad
Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cwrdd â charfan rygbi Merched Cymru heddiw (Dydd Llun 21ain o Fawrth) cyn i Bencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2022 ddechrau.
Dechrau paru pobl o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin
Bydd Cymru yn gweithredu fel uwch-noddwr ar gyfer cynllun a fydd yn rhoi cyfle i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel geisio lloches yng Nghymru.