Newyddion
Canfuwyd 163 eitem, yn dangos tudalen 4 o 14

20 miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol yn cael eu gweini yng Nghymru drwy fenter "drawsnewidiol"
Heddiw mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bod dros 20 miliwn o brydau ychwanegol wedi'u gweini ers dechrau rhoi prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd yng Nghymru ym mis Medi 2022.

Canolfan Gweithrediadau Diogelwch Cenedlaethol gyntaf y DU yn lansio yng Nghymru
Mae'r cynllun cenedlaethol cyntaf o'i fath yn y DU, a fydd yn amddiffyn awdurdodau lleol Cymru a'r holl wasanaethau tân ac achub yng Nghymru rhag ymosodiadau seiber, wedi lansio heddiw (dydd Gwener, 10 Mai).

Prif Weinidog Cymru ym Mumbai i ymladd dros swyddi Tata
Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi teithio i Mumbai heddiw i gwrdd ag arweinwyr Dur Tata er mwyn cyflwyno'r achos dros osgoi diswyddiadau caled ar draws safleoedd y cwmni yng Nghymru, yn enwedig ar safle Port Talbot.

Pleidlais fawr yn nodi carreg filltir newydd yn nhaith datganoli Cymru
Heddiw (8 Mai), mae Senedd Cymru wedi cytuno ar gynigion nodedig i foderneiddio'r Senedd a'i gwneud yn fwy effeithiol.

Bachgen dewr yn ei arddegau o Gymru a achubodd fywyd rhywun arall ymhlith enillwyr 'gwirioneddol ysbrydoledig' Gwobrau Dewi Sant 2024
Roedd Sgowt Explorer o Rondda Cynon Taf, a achubodd ddyn ifanc oedd ar fin lladd ei hun, ymhlith yr enillwyr yng Ngwobrau Dewi Sant eleni, sy'n cydnabod pobl sydd wedi gwneud pethau rhyfeddol.

Y Prif Weinidog Vaughan Gething yn cyhoeddi Cabinet Newydd Llywodraeth Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei dîm Gweinidogol i weithio dros Gymru llawn optimistiaeth, uchelgais a chyfleoedd.

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi enwau teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2024
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi mewn digwyddiad yn y Senedd pwy sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.

Cymru'n cryfhau cysylltiadau â Silesia i nodi 20 mlynedd o hanes cyffredin
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn bwriadu adnewyddu perthynas hirsefydlog Cymru gyda rhanbarth Silesia yng Ngwlad Pwyl.

Neges Blwyddyn Newydd Prif Weinidog Cymru 2024
Yn ei neges Blwyddyn Newydd mae'r Prif Weinidog yn dweud:

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi enw enillydd y gystadleuaeth cerdyn Nadolig
Heddiw, mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Kai Lloyd sydd wedi ennill cystadleuaeth flynyddol cerdyn Nadolig y Prif Weinidog.

15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi’u gweini fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio
Mae 15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi cael eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.