English icon English

Newyddion

Canfuwyd 2684 eitem, yn dangos tudalen 87 o 224

Welsh Government

Prif Weinidog Cymru yn cwrdd â charfan rygbi Merched Cymru cyn y Chwe Gwlad

Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cwrdd â charfan rygbi Merched Cymru heddiw (Dydd Llun 21ain o Fawrth) cyn i Bencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2022 ddechrau.

Top row - Vivan Laing, NSPCC
Middle row - Sally Holland, Children's Commissioner for Wales
Bottom Row [L-R] -  Julie Morgan, Deputy Minister for Social services, Janae and Malakai

Cosbi plant yn gorfforol nawr yn anghyfreithlon yng Nghymru

O heddiw [Mawrth 21], bydd yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru wrth i Lywodraeth Cymru barhau i roi lle canolog i hawliau plant yn ei pholisïau.

Welsh Government

Dirprwyaeth Cymru Greadigol wrthi’n llwytho... yn barod ar gyfer Cynhadledd fyd-eang ar Ddatblygu Gemau

Diolch i gymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae dirprwyaeth o wyth sy’n cynrychioli’r prif gwmnïau datblygu gemau a meddalwedd yng Nghymru yn mynd i San Francisco gyda Cymru Greadigol ar gyfer cyfarfod blynyddol mwyaf y diwydiant gemau.

Welsh Government

Dechrau paru pobl o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin

Bydd Cymru yn gweithredu fel uwch-noddwr ar gyfer cynllun a fydd yn rhoi cyfle i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel geisio lloches yng Nghymru.

Fishing 1-2

Cefn y rhwyd! Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun ailgylchu offer pysgota

Wrth i Gymru weithredu yn erbyn sbwriel môr, hi yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun i ailgylchu offer pysgota.

Ashok 2

Llywydd ac Is-lywydd newydd wedi’u Penodi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi penodiad Llywydd ac Is-lywydd newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Welsh Government

Grŵp i adolygu trafnidiaeth yn y Gogledd

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi panel o gomisiynwyr annibynnol a fydd yn argymell sut i adeiladu system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig yn y Gogledd.

Welsh Government

Y Prif Weinidog yn trafod Wcráin gyda Phwyllgor Rhanbarthau’r UE

Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn trafod y rhyfel yn Wcráin a chydweithredu ar draws Ewrop, pan fydd y Prif Weinidog yn annerch Pwyllgor Rhanbarthau’r UE.

Lynne Neagle Rhian Mannings-2

Dyfarnu £3 miliwn i elusennau profedigaeth ledled Cymru

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, y bydd elusennau sy’n cefnogi pobl drwy brofedigaeth yn elwa ar £3 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf.

Welsh Government

Cymru yn cynnig teithio am ddim ar drenau i ffoaduriaid Wcráin

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru o heddiw ymlaen.

Masnach Rhyngwladol

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi pecyn cymorth o bwys i helpu busnesau Cymru i allforio'n fyd-eang

  • Buddsoddiad o £4 miliwn mewn rhaglenni i greu allforwyr newydd ac i helpu busnesau sy’n allforio eisoes i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd dramor.
  • Cyhoeddi rhaglen newydd o ddigwyddiadau rhyngwladol – gan gynnwys teithiau masnach i Ogledd America ac America Ladin, y Dwyrain Canol, Affrica, Asia, Awstralasia ac Ewrop.