Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 85 o 248
Cynllun ar gyfer uned iechyd meddwl newydd yn symud gam yn nes
Mae cynlluniau amlinellol i adeiladu uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn gwella ansawdd gofal i oedolion a phobl hŷn wedi cael eu cymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd.
Rhaglen Arfor 2 gwerth £11m i hybu ffyniant economaidd mewn cymunedau Cymraeg
- Rhaglen newydd Arfor 2 wedi'i chynllunio i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.
- Bydd £11m ar gael ar gyfer cymunedau mewn pedair sir sydd â’r lefelau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
- Bydd y cyllid yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys canolbwyntio ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, er mwyn eu galluogi i aros yn eu cymunedau lleol neu ddychwelyd iddynt.
- Bydd y rhaglen yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru (Cymraeg 2050) sy'n anelu at sicrhau bod 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cig oen o Gymru ar ei ffordd i America
Caiff cig oen o Gymru ei allforio i’r Unol Daleithiau heddiw, am y tro cyntaf mewn dros 25 mlynedd. Mae'r llwyth wedi ei brosesu yn Dunbia, Sir Gaerfyrddin.
Gweledigaeth newydd ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru a fydd yn helpu pobl i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl a marw ag urddas.
Y Llywodraethau datganoledig yn unedig wrth alw am weithredu brys ynghylch ‘costau byw’
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ochr yn ochr â Gweinidog yr Alban ar gyfer Nawdd Cymdeithasol, Ben MacPherson a Gweinidog Cymunedau Gogledd Iwerddon Deirdre Hargey yn annog Llywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad mawr am ddiogelwch adeiladau
Heddiw (dydd Gwener, 7 Hydref), mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi rhoi diweddariad pwysig ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru yn dilyn cyfarfodydd adeiladol gyda datblygwyr.
O’r Senedd i’r ystafell ddosbarth: Prif Weinidog Cymru yn cymryd cwestiynau gan ddisgyblion ysgol
Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn wynebu math gwahanol o groesholi yr wythnos hon pan gymerodd gwestiynau gan ddisgyblion ysgol mewn sesiwn holi ac ateb ar-lein.
“Angen newid cyfeiriad o ran cyfiawnder” – Y Cwnsler Cyffredinol
Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn galw ar i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ailosod ei pherthynas â’r sector cyfreithiol.
Cynlluniau yn eu lle ar gyfer effeithiau tywydd posibl ar Bont Menai
Mae cynlluniau yn eu lle i ddelio ag effaith bosibl stormydd y gaeaf ar gerbydau nwyddau trwm sy’n teithio i Ynys Môn ac oddi yno tra bo cyfyngiadau pwysau mewn grym ar Bont Menai.
£20m i wella cyfleusterau anghenion dysgu ychwanegol
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi £20 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol er mwyn gwella neu greu mannau a chyfleusterau cynhwysol i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Gostwng oedran sgrinio canser y coluddyn i 55 oed
Bydd profion sgrinio canser y coluddyn ar gael i fwy o bobl yng Nghymru wrth i brofion cartref gael eu hehangu i gynnwys unigolion 55-57 oed.
NEWYDD Deifio Dwfn Bioamrywiaeth yn annog Llywodraeth Cymru i dreblu’r gwaith o adfer mawndiroedd fel rhan o’r addewid i adfer natur
HEDDIW mae ‘Deifio Dwfn Bioamrywiaeth’ dan arweiniad arbenigwr - a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu’r ffordd orau o gyflymu adferiad byd natur ar draws y tir a’r môr - wedi nodi ei argymhellion. Mewn ymateb cyflym, treblodd Llywodraeth Cymru ei thargedau adfer mawndiroedd gan addo camau pellach i adfer bywyd gwyllt a phlanhigion Cymru.