Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 88 o 248
Cymorth gyda chostau byw i fyfyrwyr prifysgol
Ni ddylai costau byw byth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol. Dyna pam mae Cymru'n darparu'r grantiau costau byw mwyaf hael yn y DU.
Cynllun newydd i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol yng Nghymru
- Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol newydd ar gyfer 2022–2025 i helpu i ddatblygu gweithlu’r dyfodol ac uwchsgilio’r dalent bresennol
- Cefnogir y cynllun gan gronfa newydd gwerth £1 miliwn ar gyfer y sectorau creadigol yng Nghymru
- Mae diwydiannau creadigol yng Nghymru yn cyflogi 35,400 o bobl mewn 3,423 o fusnesau, gan greu £1.7 biliwn ar gyfer economi Cymru.
Prydau ysgol am ddim ar gyfer teuluoedd ar incwm isel i barhau yn ystod y gwyliau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu i blant o deuluoedd incwm isel yng Nghymru yn ystod gwyliau’r ysgol, hyd nes hanner tymor mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Bil arloesol er mwyn gwahardd plastigion untro yng Nghymru ac osgoi gadael ‘gwaddol gwenwynig’ i genedlaethau’r dyfodol
Heddiw, bydd cam allweddol yn cael ei gymryd i leihau’r llif o wastraff plastig sy’n dinistrio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru gan y disgwylir i Fil sy’n gwahardd plastigion untro gael ei osod gerbron y Senedd.
Dweud eich dweud am ardoll ymwelwyr i Gymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle yn Sir Benfro
Mae Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 mewn dofednod ar safle mawr yn Sir Benfro.
Mwy o blant yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim wrth fynd ati i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw
Wrth i blant fynd yn ôl i’r ysgol, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu’r ffaith bod rhoi prydau ysgol am ddim yn mynd i gael ei ehangu i blant cynradd yng Nghymru.
Ffliw Adar wedi'i ganfod ar safle yng Ngwynedd
Mae Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 ar safle ger Arthog yng Ngwynedd.
Ffermwyr i helpu Cymru i gyrraedd Sero Net wrth i Lywodraeth Cymru neilltuo £32m ychwanegol ar gyfer plannu coed
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi £32m heddiw i helpu ffermwyr a pherchenogion tir yng Nghymru i blannu 86 miliwn o goed cyn diwedd y degawd fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Dechrau rhoi pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref heddiw yng Nghymru
Mae’r broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref wedi dechrau heddiw (1 Medi) yng Nghymru gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal ledled Cymru y rhai cyntaf i gael y brechlyn.