Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 89 o 248
Partneriaeth â Llywodraeth Cymru’n datblygu swyddfeydd newydd yng Nghross Hands
Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun i adeiladu swyddfeydd newydd o’r ansawdd uchaf yng Nghross Hands, fydd yn helpu i greu swyddi newydd yn yr ardal, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw.
Gweinidog yr Economi yn ymweld ag ABER Instruments – llinyn i fesur llwyddiant
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi ymweld ag ABER Instruments yn Aberystwyth, cwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr, sy'n mynd o nerth i nerth, a hynny diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
“Diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU wrth i’r cap ar bris ynni gynyddu ac elw’r cwmnïau olew a nwy godi i’r entrychion” – Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt
Gydag Ofgem yn cynyddu’r cap ar bris ynni heddiw, mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ei diffyg gweithredu ac am beidio â chefnogi’r mwyaf bregus yn ystod yr argyfwng costau byw.
Y Gweinidog Addysg yn llongyfarch myfyrwyr TGAU ar eu canlyniadau
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi llongyfarch pobl ifanc ledled Cymru wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu harholiadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.
Yr ŵyl gyntaf i ofalwyr ifanc yng Nghymru
Mae’r ŵyl gyntaf i ofalwyr ifanc yng Nghymru yn cael ei chynnal yr wythnos hon [23-25 Awst].
Ailbenodi Dafydd Trystan Davies yn Gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi bod Dr Dafydd Trystan-Davies wedi’i ailbenodi’n Gadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Cynllun newydd i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith
Mae helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu i sicrhau eu bod yn cael cyfle i fyw bywydau llawn ac annibynnol, yn ôl y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a oedd yn siarad heddiw (23 August) ar ôl cyfarfod â dyn o Gaerdydd sy’n dathlu carreg filltir yn ei waith.
Y Prif Weinidog yn ymweld â stiwdio Sex Education Netflix i gyfarfod prentisiaid y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cefnogi
Bu’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymweld â set cyfres Sex Education Netflix i gwrdd â phrentisiaid a hyfforddeion ac i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi pedwerydd tymor y sioe lwyddiannus.
Datblygu adnodd Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu newydd gwerth £1.5m ar gyfer pobl ifanc
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod adnodd newydd i asesu anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn plant yn cael ei ddatblygu.
Asynnod, dolffiniaid a thormeini’n cael help llaw drwy £15 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer byd natur
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi bod bron £15 miliwn ar gael i berchenogion a rheolwyr tir sydd am wella bioamrywiaeth er mwyn helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.