Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 92 o 248
Symud i archwiliadau deintyddol blynyddol i wella’r nifer sy’n cael gofal deintyddol y GIG yng Nghymru
Bellach, dim ond unwaith y flwyddyn y bydd angen i’r mwyafrif o oedolion yng Nghymru weld deintydd, yn sgil ad-drefnu fel y gall mwy o bobl gael gofal deintyddol gan y GIG.
Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad: Gweinidogion yn anfon neges Pob Lwc i Dîm Cymru!
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden wedi anfon neges pob lwc i Dîm Cymru cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham.
Mwy o gymorth ariannol i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol o fis Medi
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn gymwys i gael mwy o gymorth ariannol o fis Medi ymlaen, fel rhan o becyn cymorth ychwanegol gwerth £3.5 miliwn.
Disgyblion yn disgleirio mewn cynllun peilot ysgol haf
Mae disgyblion Blwyddyn 11 o bob rhan o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn ysgol haf breswyl a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Sylfaen Seren.
Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi cynnydd cyflog i staff GIG Cymru
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi derbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gyhoeddi cynnydd i gyflogau staff GIG yng Nghymru heddiw.
Y Dirprwy Weinidog yn mynd ar y trywydd iawn i sicrhau dyfodol mwy disglair i rasio ceffylau
Heddiw, aeth Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, ar ymweliad â'r Cae Ras yng Nghas-gwent i weld sut mae Rasio Ceffylau yng Nghymru yn adfywio yn dilyn y pandemig Covid, ac i glywed am ddyheadau ar gyfer twf yn y dyfodol.
Ymateb Llywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad diweddaraf GIG Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 21 Gorffennaf).
£3 miliwn ychwanegol i recriwtio mwy o staff ambiwlans brys i wella amseroedd ymateb
Bydd £3 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru i recriwtio mwy o staff ambiwlans brys i wella amseroedd ymateb ar gyfer y rhai mwyaf sâl neu sydd wedi’u hanafu fwyaf difrifol.
Cymru, gwlad sy’n arloesi: Cwmni ym Maglan a Llywodraeth Cymru’n cydfuddsoddi i ddatblygu syniad digynsail yn y DU ym maes technoleg ffonau symudol
- Mae Crossflow Energy yn dylunio mastiau ffonau symudol sy’n arwain y byd, sy’n defnyddio pŵer o dyrbin gwynt arloesol, a allai fynd i’r afael ag ardaloedd lle nad oes signal a helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
- Bellach mae’r cwmni’n denu sylw darparwyr telathrebu o bob rhan o’r byd
- Mae cwmnïau yng Nghymru yn dylunio ac yn masnacheiddio cynhyrchion newydd arloesol diolch i gymorth arloesi gan Lywodraeth Cymru
- Mae’r Gweinidog wedi lansio ymgynghoriad ar strategaeth draws-lywodraethol newydd i Gymru.
Ymestyn cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru i fwy na 400,000 o aelwydydd incwm isel yn dilyn buddsoddiad o £90m
Bydd dros 400,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn gymwys am daliad o £200 i helpu i gadw eu cartrefi'n gynnes yr hydref a'r gaeaf hwn.