Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 80 o 320
"Mae'r ffordd rydyn ni'n trochi plant yn yr Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru"
Heddiw, (dydd Mawrth 8 Hydref) mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle yn dathlu gwaith canolfannau trochi wrth i'r galw am ddarpariaeth trochi hwyr barhau i dyfu - gyda Chymru'n cael ei hystyried yn arweinydd byd-eang yn y maes.
Lansio rownd nesaf cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5m
Mae rownd nesaf cronfa dwristiaeth sy'n gwella profiadau ymwelwyr ledled Cymru wedi cael ei lansio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
Gostwng oedran sgrinio'r coluddyn i 50 yng Nghymru
Bydd miloedd yn fwy o bobl yn derbyn profion sgrinio'r coluddyn gartref yn awtomatig i helpu i achub mwy o fywydau.
Cymru i gynnal digwyddiad cynaliadwyedd rhyngwladol mawr
Bydd siaradwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o'r byd yn ymgynnull yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf wrth i Gymru gynnal Hotspot Economi Gylchol Ewrop am y tro cyntaf.
Arbed y drafferth, lesiwch eich eiddo
Oeddech chi’n gwybod eich bod yn cael lesio’ch eiddo i’ch awdurdod lleol a chael gwarant o incwm rhent?
Mae Cynllun Lesio Cymru, cynllun dan ofal Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i landlordiaid a pherchenogion tai gwag lesio’u heiddo i’r awdurdod lleol am 5 i 20 mlynedd.
Mae’r cynllun yn gwarantu incwm rhent bob mis ichi a hefyd bydd yr awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth rheoli llawn heb ichi orfod talu comisiwn.
Mae hynny’n golygu na fydd perchenogion yn mynd am gyfnodau heb rent pan fydd yr eiddo’n wag na chwaith yn gorfod delio â rhent ddyledus. Bydd yr incwm rhent, ar lefel y lwfans tai lleol, wedi’i warantu.
Hefyd, efallai y bydd grant o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer adnewyddu’r eiddo a hyd at £5,000 ar ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol.
Bydd tenantiaid yn elwa hefyd, gyda chymorth wedi’i warantu am oes y les.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Rydyn ni’n gwybod bod tai gwag yn wastraff ar adnoddau yn ein cymunedau ac mae’r cynllun hwn yn ffordd wych o wneud cartrefi’n fwy fforddiadwy a hygyrch.
“Rydw i'n edrych ymlaen at weld sut y gall perchnogion eiddo a landlordiaid gael eu cefnogi drwy’r cynllun i ddarparu cartrefi diogel, hirdymor a fforddiadwy i denantiaid.”
DIWEDD
Ysgol Feddygol newydd yn "gam enfawr ymlaen" ar gyfer recriwtio meddygon yn y Gogledd
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi agor Ysgol Feddygol y Gogledd yn swyddogol.
Cymorth Llywodraeth Cymru i roi hwb i gymunedau a mynd i'r afael â thlodi plant
Bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ledled Cymru yn helpu i gefnogi cymunedau a lliniaru tlodi plant, yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
Annog perchnogion tir i gadw golwg am arwyddion o'r chwilen rhisgl sbriws wythddant
Mae Prif Swyddog Iechyd Planhigion Cymru yn gofyn i bob perchennog tir, coedwigwr a ffermwr i gadw golwg am arwyddion o Ips typographus.
Buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a thwf economaidd ar frig agenda Ysgrifennydd Cyllid Cymru wrth gwrdd â gwledydd y DU
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi croesawu'r cyfle i gydweithio â holl wledydd y DU i sicrhau economi gryfach i Gymru cyn cyfarfod gyda'i gymheiriaid heddiw (dydd Iau, 3 Hydref).
Buddsoddiad o chwarter biliwn o bunnoedd i ofal cymunedol yn cadw pobl yn iach gartref ac i osgoi derbyniadau i'r ysbyty
Mae mwy na chwarter biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi helpu pobl hŷn i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain ac wedi osgoi miloedd o arosiadau diangen mewn ysbytai.
Diweddariad cyfryngau cymdeithasol ar y Tafod Glas Seroteip 3 (BTV-3)
Gweler isod y diweddariad ar y cyfryngau cymdeithasol ar y tafod glas Seroteip 3 (BTV-3): Llywodraeth Cymru Cefn Gwlad on X: "Mae’r Tafod Glas seroteip 3 (BTV-3) wedi cael ei ganfod mewn anifail sydd wedi’u symud i Ynys Mon o ddwyrain Lloegr. Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am y clefyd a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel. https://t.co/hdvhai2QE6" / X
Meithrin sgiliau a thalent i greu Cymru Greadigol
Mae 17 o brosiectau arloesol o bob rhan o Gymru wedi cael hyd at £125,000 yr un trwy'r Gronfa Sgiliau Creadigol, cyhoeddodd y Gweinidog Jack Sargeant heddiw [dydd Mercher 2 Hydref].