Newyddion

Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 75 o 320

Welsh Government

Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith

Bydd cynigion newydd yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol yn gyflymach

Welsh Government

Profiadau byw, diogelwch a lles wrth wraidd diogelwch adeiladau yng Nghymru

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, ddiweddariad ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru yn y Senedd.

Daisy Day Nursery (3)-2

Hwb enfawr i'r sector gofal plant yng Nghymru wrth i ryddhad ardrethi busnesau bach gael ei wneud yn barhaol

Ni fydd yn rhaid i safleoedd gofal plant cofrestredig dalu ardrethi busnes mwyach, gan arbed miliynau o bunnoedd bob blwyddyn.

 

 

HID EV Rally-2

Mae sioe fodurau cerbydau trydan wedi dod i Gaerdydd fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Techniquest ym Mae Caerdydd, yn caniatáu i ymwelwyr weld a gyrru'r cerbydau trydan diweddaraf sydd ar gael i'w prynu.

50-day callenge visit Cardiff and Vale IDS-2

Her 50 diwrnod i helpu i cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol

Heddiw (11 Tachwedd), mae Llywodraeth Cymru wedi lansio her 50 diwrnod i helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref o’r ysbyty yn ddiogel, ac i leddfu pwysau'r gaeaf ar ein system iechyd a gofal. 

Welsh Government

Unrhyw beth yn bosibl ar gyfer diwydiant gemau Cymru

Flwyddyn ers agor ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghaerdydd, mae Rocket Science Group, sydd ar flaen y gad yn y maes cyd-ddatblygu gemau a pheirianneg aml-chwaraewr, yn dathlu llwyddiannau enfawr.

Welsh Government

Arddangos diwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus mewn ffair fasnach fyd-eang

Bydd diwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus Cymru yn cael ei ddathlu a'i hyrwyddo yn un o'r ffeiriau masnach busnes-i-fusnes mwyaf yn y byd yn ystod Wythnos Masnach Ryngwladol.

Welsh Government

Cefnogaeth o fudd i gyn-filwyr

Cyn Sul y Cofio, mae Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Lluoedd Arfog, Ken Skates, wedi croesawu'r newyddion am £3.5m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen Lleihau Digartrefedd Cyn-filwyr.

Welsh Government

Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu Cyngor Sir y Fflint i fod yr awdurdod lleol cyntaf i ymgynghori ar ffyrdd lle gall 20mya newid

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi croesawu Cyngor Sir y Fflint i fod yr awdurdod lleol cyntaf i gyhoeddi dechrau'r broses statudol ar ffyrdd lle y gellir gwneud newidiadau i'r terfyn cyflymder o 20mya.

Welsh Government

Blwyddyn o helpu perchnogion tai i aros yn eu cartrefi

Flwyddyn ers ei lansio, mae Cymorth i Aros Cymru wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor amhrisiadwy i berchnogion tai ledled y wlad i’w helpu i aros yn eu cartrefi.

Welsh Government

Ysgolion yng Nghymru yn elwa o brosiect gwrth-hiliol wrth i’r gynllun gael ei adnewyddu

Mae prosiect sy'n helpu ysgolion i addysgu dysgwyr am sut i herio hiliaeth yn chwarae rhan allweddol yn nod Llywodraeth Cymru i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030.