Newyddion
Canfuwyd 3882 eitem, yn dangos tudalen 72 o 324
Blwyddyn Newydd... Gyrfa Newydd?
Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, â chanolfan gyrfaoedd Cymru'n Gweithio i gwrdd ag unigolion sydd wedi newid gyrfa’n llwyr yn eu 40au a'u 50au gyda chefnogaeth adolygiad gyrfa Cymru'n Gweithio.
Prosiectau ynni lleol mwy clyfar a gwyrdd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau 2025 drwy ddyfarnu hyd at £10 miliwn o gyllid grant i 32 o brosiectau ynni gwyrdd cymunedol ym mhob cwr o Gymru.
£10m i drawsnewid canol trefi a dinasoedd ledled Cymru
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, wedi sicrhau bod £10m o Gyfalaf Trafodion Ariannol ar gael i ariannu prosiectau adfywio ledled y wlad.
Gweithlu addysgu a wnaed yng Nghymru
Gyda galw mawr am athrawon uwchradd yn enwedig yn y pynciau allweddol Cymraeg, Gwyddoniaeth a Mathemateg, mae mwy o ffyrdd nag erioed i ddechrau taith i addysgu.
Ap newydd i wella gofal mamolaeth yng Nghymru
Bydd menywod beichiog yn elwa ar ofal mamolaeth gwell wrth i ap a system cofnodion iechyd electronig newydd gael eu cyflwyno ledled Cymru.
Academi Pobol - menter hyfforddi yn llwyddiant
Mae menter sgiliau a thalent Cymraeg sy'n uwchsgilio'r genhedlaeth nesaf o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant teledu drwy hyfforddiant ar set Pobol y Cwm, Cynhyrchiad Drama Stiwdios y BBC, wedi cael ei chanmol gan y Gweinidog dros y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant.
Porthladd Caergybi – y diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae ymdrechion digynsail yn cael eu gwneud i gael pobl adref i Iwerddon cyn y Nadolig yn dilyn cau Porthladd Caergybi dros dro yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Gwasanaethau ychwanegol i fynd i'r afael â'r ffaith bod Porthladd Caergybi wedi'i gau dros dro
Mae partneriaid yn parhau i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod teithwyr a nwyddau yn gallu teithio i Iwerddon ac oddi yno cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i borthladd Caergybi gael ei gau dros dro
Cinio Nadolig am ddim am y tro cyntaf i bob plentyn yn ysgolion cynradd Cymru
Mae ysgolion ar hyd a lled Cymru yn cynnal eu dathliadau diwedd tymor yr wythnos hon, ac am y tro cyntaf mae gan bob plentyn ysgol gynradd yr hawl i gael pryd Nadolig am ddim.