Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 78 o 320
Y Dirprwy Brif Weinidog yn rhannu sut y gall Cymru fynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd gyda'i gilydd
Wrth i arweinwyr byd ymgynnull yng nghynhadledd fioamrywiaeth COP16 Cali yr wythnos hon, a fis cyn iddynt ddod at ei gilydd yn Baku ar gyfer COP 29, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth sy'n canolbwyntio ar ddarparu Cymru wedi'i haddasu ar gyfer ein hinsawdd sy'n newid.
Ailwampio adeilad ysgol i'w wneud yn garbon sero net am y tro cyntaf yng Nghymru
Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful fydd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hailwampio i'w gwneud yn garbon sero net.
Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i ymladd caethwasiaeth fodern
Ar Ddiwrnod Gwrth-gaethwasiaeth (dydd Gwener 18 Hydref), mae'r Ysgrifennydd dros Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi datgan, unwaith eto, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i oresgyn heriau aruthrol caethwasiaeth fodern.
Datblygiad tai uchelgeisiol i ddarparu mwy na 100 o gartrefi ynni-effeithlon
County Flats yw datblygiad mwyaf uchelgeisiol Tai Tarian hyd yma. Bydd y 72 o fflatiau presennol yn cael eu trawsnewid, a 55 o gartrefi newydd yn cael eu creu.
Fforwm Cymru-Iwerddon: ymweliad tramor cyntaf y Prif Weinidog
Yn ystod ei hymweliad tramor cyntaf fel Prif Weinidog, mae Eluned Morgan yn Nulyn a Chorc yr wythnos hon ar gyfer trafodaethau i atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.
"O gael y gefnogaeth iawn, fe allwn ni i gyd ddod o hyd i'n lle ym myd addysg."
Geiriau Adele, sydd bellach yn astudio i fod yn athrawes, ar ôl mynd i ddigwyddiad recriwtio athrawon a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.
Mwy o bobl yn dod yn berchnogion tai am y tro cyntaf oherwydd gynllun peilot ail gartrefi arloesol
Cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei pheilot ail gartrefi a fforddiadwyedd arloesol yn Nwyfor, dim ond un Prynu Cartref wedi'i gwblhau yn yr ardal mewn pum mlynedd.
Cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn helpu cwmni dur i ehangu gweithrediadau
Mae busnes sydd ag enw da am ddarparu cynhyrchion dur o safon uchel yn ehangu ei weithrediadau ac yn ehangu ei bencadlys gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Adnodd newydd i helpu dysgwyr cyfrwng Cymraeg sydd â dyslecsia
Diolch i dros £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn datblygu cyfres newydd o brofion i wella'r ffordd o adnabod disgyblion ag anawsterau llythrennedd mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn amlinellu ei nodau ar gyfer addysg ôl-16
Heddiw (15 Hydref) mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, wedi amlinellu ei nodau a'i hamcanion yn ei rôl weinidogol newydd, gyda phwyslais ar gydweithio, cydweithredu a chymuned.
Perthyn: Grantiau bach ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith yn agor
Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, wedi annog grwpiau cymunedol i wneud cais am arian oddi wrth Gynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn i helpu'r Gymraeg ffynnu.
Miloedd o ffermydd Cymru yn derbyn blaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol.
Heddiw [14 Hydref] mae £157.8m wedi'i dalu i dros 15,500 o fusnesau fferm yng Nghymru wrth wneud blaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2024.